Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Sêl bendith swyddogol ar gyfer datblygiad tai'r Lawnt

Guests at the official opening of Y Lawnt in Newtown.

5 Ebrill 2023

Guests at the official opening of Y Lawnt in Newtown.
Mae datblygiad tai gwerth £3.4 miliwn sy'n cynnig 26 o fflatiau un llofft yn y Drenewydd wedi cael ei agor yn swyddogol.

Gosodir pob un o'r fflatiau ar gontractau diogel, sy'n rhoi cyfle gwirioneddol i denantiaid droi'r fflatiau sy'n effeithlon o safbwynt ynni yn 'gartrefi am byth'. Bydd y rhenti ymhlith yr isaf ym Mhowys, ac yn helpu pobl i reoli'n well yr heriau costau byw sy'n wynebu llawer o bobl.

Cafodd gwesteion daith o amgylch y cartrefi newydd sydd wedi'u hadeiladu ar gyfer Cyngor Sir Powys gan Gontractwyr Adeiladu Pave Aways fore Mercher (5 Ebrill).

Adeiladwyd datblygiad tri llawr newydd, Y Lawnt, ar safle lawnt bowlio flaenorol yng nghanol Y Drenewydd.

Mae'r safle gerllaw Clwb Bowlio'r Drenewydd (a sefydlwyd ym 1892) a maes parcio'r Lôn Gefn yn y dref.

Mae'r fflatiau'n eiddo i ac yn cael eu rheoli gan Gyngor Sir Powys (CSP) ac fe'u dyranwyd i denantiaid trwy gynllun 'Cartrefi ym Mhowys' sef siop un stop ar gyfer tai cymdeithasol ledled y sir.

Mae 'Cartrefi ym Mhowys' yn galluogi unrhyw un sy'n chwilio am gartref diogel, sy'n wirioneddol fforddiadwy wneud un cais, a chael ei ystyried wedyn gan y cyngor ac wyth o gymdeithasau tai ar gyfer cartref newydd. Gellir dysgu mwy am y Cynllun Dyrannu Cyffredin, a gwneud cais am dai cymdeithasol yma: Gwneud cais am dŷ cymdeithasol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu £2.2 miliwn tuag at y prosiect trwy'r Rhaglen Tai Arloesol.

Dywedodd y Cyng. Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd CSP ac Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Decach "Mae'r datblygiad carbon isel yma yng nghanol y Drenewydd wedi gwneud cryn argraff arnaf; mae'n ein helpu i ddarparu cartrefi costau isel ychwanegol, mawr eu hangen, ar gyfer trigolion Powys".

"Rwyf yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y gefnogaeth ariannol ac am waith swyddogion Tîm Tai Fforddiadwy'r Cyngor a'n partneriaid adeiladu am gyflawni'r prosiect hwn, sydd mor uchel ei safon. Mae'r Lawnt yn ein helpu gwneud ein siâr o ran mynd i'r afael â'r argyfyngau tai a hinsawdd sy'n ein hwynebu."

Ychwanegodd Jamie Evans, Cyfarwyddwr Adeiladu Pave Aways: "Mae'r cynllun hwn wedi gwireddu cartrefi newydd uchel eu manyleb fydd yn fwy economaidd ar gyfer tenantiaid mewn cyfnod o gostau ynni uchel, a gellir addasu'r dulliau adeiladu arloesol a ddefnyddiwyd, gennym ni a'n his-gontractwyr ar ddatblygiadau carbon isel eraill yn y dyfodol."

Ymhlith y gwesteion yn yr agoriad swyddogol roedd cynrychiolwyr ar ran Cyngor Sir Powys a'r Panel Craffu Tenantiaid, y contractwyr Pave Aways a Chyngor Tref Y Drenewydd a Llanllwchaearn.

LLUN: Gwesteion yn agoriad swyddogol Y Lawnt yn Y Drenewydd.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu