Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Adroddiad Hunanasesu Corfforaethol Blynyddol

Bob blwyddyn, mae pob awdurdod lleol yng Nghymru bellach yn gorfod cyhoeddi adroddiad sy'n gosod allan sut mae'r Cyngor yn credu y mae'r sefydliad wedi perfformio yn ystod y cyfnod ariannol blaenorol (Ebrill - Mawrth).

Mae disgwyl i'r adroddiad gynnwys casgliadau'r Cyngor o ran lefel ei berfformiad a'r graddau y mae wedi cyflawni ei ddyletswyddau a'i oblygiadau. Does dim disgwyl i'r adroddiad gyflwyno tystiolaeth newydd, ond yn hytrach bydd yn dwyn ynghyd yr adroddiadau a hunanasesiadau niferus eraill y mae'r Cyngor yn gyfrifol amdanynt i'w datblygu drwy gydol y flwyddyn. Mae'r Adroddiad Hunanasesiad Corfforaethol Blynyddol yn amlinellu'r wybodaeth sydd ar gael drwy'r ffynonellau eraill hyn ac mae'n darparu cyfres o ddyfarniadau sy'n seiliedig ar yr argymhellion a wnaed gan yr adroddiadau hynny.

Gellir cael manylion pellach ynghylch perfformiad y Cyngor o ran bodloni oblygiadau llywodraethiant oddi wrth Ddatganiad Llywodraethiant Blynyddol Powys (DLlB). Mae'r ddogfen hon yn gosod allan y prosesau a'r mesurau diogelu sydd gan Gyngor Sir Powys mewn lle i sicrhau ymarfer llywodraethiant da ac mae'n disgrifio unrhyw welliannau ac argymhellion a gofnodwyd yn ystod y cyfnod ariannol blaenorol. Mae'r ddwy ddogfen, wrth eu hystyried ar y cyd, yn darparu hunanasesiad cynhwysfawr sy'n disgrifio sut mae'r Cyngor yn barnu ei berfformiad.

2022-2023

Am wybodaeth bellach lawrlwythwch yr Adroddiad Hunanasesu Corfforaethol Blynyddol cyflawn ar gyfer 2022/23 (PDF) [844KB]

2021-2022

Am wybodaeth bellach lawrlwythwch yr Adroddiad Hunanasesu Corfforaethol Blynyddol cyflawn ar gyfer 2021/22 (PDF) [3MB]

Gwybodaeth Gefndir

Daeth Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 i rym cyfreithiol yn Ebrill 2021 ac mae'n gosod oblygiad ar awdurdodau lleol yng Nghymru i ddarparu adroddiad blynyddol sy'n gosod allan sut y maen nhw'n cyflawni eu 'gofynion perfformio'. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y bydd rhaid i CSP ddarparu tystiolaeth o'r canlynol:

  • Ei fod yn ymarfer ei swyddogaethau'n effeithiol
  • Ei fod yn defnyddio ei adnoddau'n economaidd, yn effeithiol ac yn effeithlon
  • Y graddau y mae ei lywodraethiant yn effeithiol o ran sicrhau'r uchod

Mae Llywodraeth Cymru wedi diffinio hunanasesiad fel:

'modd beirniadol a gonest o adolygu'r sefyllfa bresennol er mwyn gwneud penderfyniadau am sut i sicrhau gwelliant ar gyfer y dyfodol. Mae hunanasesiad yn fwy na datgan pa drefniadau sydd mewn lle; y mae'n ymwneud â pha mor effeithiol ydy'r trefniadau hyn a sut y gellir eu gwella.'  

Yn ychwanegol, mae Adran 90 y Ddeddf yn amlinellu disgwyliad Llywodraeth Cymru y bydd awdurdodau lleol, o leiaf un waith ym mhob cyfnod ariannol yn ymgynghori â:

a) phobl leol

b) pobl eraill sy'n cyflawni busnes yn ardal y cyngor

c)  staff y cyngor

d) pob undeb llafur a gaiff ei gydnabod gan y cyngor

Caiff yr ymgynghoriadau hyn eu defnyddio i ennyn adborth am ba mor dda mae'r awdurdod yn cyflawni ei ofynion perfformiad.