Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Penodi Ymgynghorwyr i gefnogi campws Iechyd a Lles y Drenewydd

Consultants

17 Ebrill 2023

Consultants
Consultants
Mae cynlluniau ar gyfer campws iechyd a lles aml-asiantaeth yng nghanol y Drenewydd wedi cymryd cam sylweddol ymlaen yn sgil penodi ymgynghorwyr adeiladu o Gaerdydd i gefnogi'r prosiect pwysig hwn, sy'n cael ei arwain ar y cyd gan Gyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, trwy'r Rhaglen Lles Gogledd Powys.

Mae Mott MacDonald wedi bod yn rhan o dirwedd Cymru ers dros 60 mlynedd gyda swyddfeydd yng Nghaerdydd, Casnewydd, Caerfyrddin a Bae Colwyn, ac maen nhw wedi cael eu comisiynu i arwain y gwaith cychwynnol ar y campws hwn ar Stryd y Parc ynghyd â chaffael partner yn y gadwyn gyflewni i gwblhau'r brosiect. Bydd y cwmni'n cydweithio'n agos â thîm cynllunio Cyngor Sir Powys i scirhau cydweithio gyda'r ysgol fydd yn rhan o'r Campws. Mae tîm y cyngor eisoes yn gweithio ar gynlluniau ar gyfer adeilad newydd i Ysgol Calon y Dderwen.

Mae cynlluniau ar gyfer y Campws Iechyd a Lles yn cynnwys adeiad ysbyty newydd ar gyfer y Drenewydd (gan gynnwys Canolfan Gofal Brys, gwelyau i gleifion mewnol, uned geni dan arweinyddiaeth bydwragedd, rhagor o wasanaethau gofal wedi'u cynllunio ynghyd â chyfarpar diagnostig gwell), cyfleusterau gofal a lles cymdeithasol, academi Iechyd a Gofal newydd yn cydweithio'n agos gyda llyfrgell y dref, ac ychydig o dai â chymorth.

Nigel Brinn (Cyfarwyddwr Gweithredol Cyngor Sir Powys) yw Uwch Swyddog Cyfrifol y brosiect (ar y cyd â Hayley Thomas, is Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys). Meddai ef: Rydw i'n falwch iawn o'r comisiwn pwysig hwn ac yn edrych ymlaen at weithio gyda Mott MacDonald wrth iddynt helpu symud y brosiect o'r bwrdd cynllunio i'r cyfnod adeiladu.

Ychwanegodd Alun Rhys Owen MRICS, Cyfarwyddwr y Brosiect ac Arweinydd Rhanbarthol Rheoli Prosiectau a Chostau (Cymru a De Orllewin Lloegr) Mott MacDonald: "Mae Mott MacDonald yn falch ac yn gyffrous i arwain ar ddatblygu'r campws ac i gydweithio â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys ar y brosiect braenaru hon. Bydd hi'n dod â chyfleusterau Addysg, Iechyd a Gofal at ei gilydd ar un safle mewn ffordd a fydd yn trawsnewid y datblygiad unigryw hwn yn gampws lles i'r gymuned gyfan".

Bydd Mott MacDonald yn defnyddio ac yn adeiladu ar y gwaith a wnaethpwyd eisoes gan y Pensaer o'r Drenewydd Douglas Hughes Architects, sydd eisoes wedi dylunio lluniau cysyniadaol ar gyfer y campws. Mae Rhaglen Les Gogledd Powys yn bartneriaeth o'r Bwrdd Iechyd a'r Cygnor dan faner Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys. Cyflwynodd tim y rhaglen ei Gynllun Strategol Amlinellol i Lywodraeth Cymru gael ei gymeradwyo yn 2022 ac rydym bellach yn gweithio ar y cam nesaf - yr Achos Busnes Amlinellol ynghyd â Chyfiawnhad Busnes ar gyfer elfennau seilwaith y campws. Bwriedir cyflwyno'r rhain yn hwyrach yn y flwyddyn hon. 

Mae gan Mott MacDonald brofiad o ystod eang o brosiectau cyfalaf blaenllaw a chymhleth gan gynnwys y Temple Quarter ym Mryste a rhaglen adfywio St Philip's Marsh, gan gynnwys adnewyddu gorsaf Bristol Temple Meads. Mott MacDonald hefyd fu'n rheoli datblygiad ysbytai gorlif dros y DU yn ystod y Pandemig ar ran y GIG; gan ennill nifer o wobrau'n cynnwys gwobr Constructing Excellence National Award am 'Integration and Collaborative Working' ar gyfer Ysbyty Calon y Ddraig, a adeiladwyd o fewn Stadiwm y Principality ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau ymghynghori aml-ddisgyblaeth Mott MacDonald ar gael yn www.mottmac.com