Blychau bywyd gwyllt i hybu bioamrywiaeth yn fflatiau'r cyngor
24 Ebrill 2023
Cafodd y blychau bywyd gwyllt eu gosod yn Buckley House ac Alfred Jones Place yn y Trallwng diolch i ymdrechion SWG Construction, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn a SWG Construction.
Cafodd tri blwch adar a thri blwch pryfed eu gosod gan SWG Construction fel rhan o'u gwaith budd cymunedol ar ôl iddyn nhw gyflawni gwaith gwella diogelwch tân yn Buckley House y llynedd.
Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn ddarparodd y blychau bywyd gwyllt fel rhan o brosiect Cysylltiadau Gwyrdd Powys, sy'n dod â busnesau, grwpiau cymunedol a pherchnogion tir ynghyd i fynd i'r afael â newid hinsawdd ac annog natur ledled y sir.
Rhoddodd yr Ymddiriedolaeth gyngor i SWG Construction ac i'r Cyngor am y lleoliadau gorau ar gyfer blychau bywyd gwyllt i wella bioamrywiaeth. Bydd y cyngor yn sicrhau bod y blychau bywyd gwyllt yn cael eu cynnal a'u cadw a'u glanhau'n flynyddol.
Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Bowys Decach: "Rwyf wrth fy modd fod y fenter hon wedi digwydd a hoffwn ddiolch i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn a SWG Construction am ymwneud â'r fenter.
"Fel rhan o'n Cynllun Busnes Tai - Gartref ym Mhowys, rydym am annog a chefnogi dyfodol gwyrddach i'n hystadau tai cyngor a gwella llesiant ein tenantiaid.
"Nid yn unig fydd y fenter hon yn hybu bioamrywiaeth a chael effaith gadarnhaol ar ein tenantiaid ond bydd hefyd yn ein helpu ni i ddarparu Powys wyrddach."
Dywed Jacqui Gough, cyfarwyddwr SWG: "Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd i sicrhau bod ein safleoedd adeiladu mor wyrdd ag sy'n bosibl, felly pan glywon ni am brosiect Cysylltiadau Gwyrdd Powys roeddem ni'n awyddus iawn i fod ynghlwm ag e.
"Mae pob un o'r safleoedd sydd ynghlwm â'r prosiect yn brosiectau tai yr ydym wedi eu cwblhau i Gyngor Sir Powys, felly hoffem ddiolch iddyn nhw am alluogi'r blychau cynefinoedd i gael eu gosod ac am gytuno i gadw llygad arnynt i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu cynnal a'u cadw."
Dywed Lottie Glover, Swyddog Bywyd Gwyllt Cymunedol Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn: "Rydym wrth ein boddau o weithio gyda SWG a Chyngor Sir Powys i ddarparu rhagor o le i fywyd gwyllt. Nid yn unig fydd gosod y blychau hyn yn gwella bioamrywiaeth yn yr ardal, bydd hefyd yn ddiau yn cael effaith gadarnhaol ar breswylwyr lleol, a'u cysylltu â natur ar stepen y drws - rhywbeth y gwyddom sydd o fudd anferthol i lesiant."
Am ragor o wybodaeth am brosiect Cysylltiadau Gwyrdd Powys, ewch i www.montwt.co.uk/our-projects/green-connections-powys