Toglo gwelededd dewislen symudol

Blychau bywyd gwyllt i hybu bioamrywiaeth yn fflatiau'r cyngor

Image of representatives from Powys County Council, SWG Construction and Montgomeryshire Wildlife Trust are pictured with the wildlife boxes outside Buckley House.

24 Ebrill 2023

Image of representatives from Powys County Council, SWG Construction and Montgomeryshire Wildlife Trust are pictured with the wildlife boxes outside Buckley House.
Cafodd blychau bywyd gwyllt eu gosod mewn dau floc o fflatiau'r cyngor yn y Trallwng fel rhan o fenter i wella bioamrywiaeth, dywedodd y cyngor sir.

Cafodd y blychau bywyd gwyllt eu gosod yn Buckley House ac  Alfred Jones Place yn y Trallwng diolch i ymdrechion SWG Construction, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn a SWG Construction.

Cafodd tri blwch adar a thri blwch pryfed eu gosod gan SWG Construction fel rhan o'u gwaith budd cymunedol ar ôl iddyn nhw gyflawni gwaith gwella diogelwch tân yn Buckley House y llynedd.

Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn ddarparodd y blychau bywyd gwyllt fel rhan o brosiect Cysylltiadau Gwyrdd Powys, sy'n dod â busnesau, grwpiau cymunedol a pherchnogion tir ynghyd i fynd i'r afael â newid hinsawdd ac annog natur ledled y sir.

Rhoddodd yr Ymddiriedolaeth gyngor i SWG Construction ac i'r Cyngor am y lleoliadau gorau ar gyfer blychau bywyd gwyllt i wella bioamrywiaeth. Bydd y cyngor yn sicrhau bod y blychau bywyd gwyllt yn cael eu cynnal a'u cadw a'u glanhau'n flynyddol.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Bowys Decach: "Rwyf wrth fy modd fod y fenter hon wedi digwydd a hoffwn ddiolch i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn a SWG Construction am ymwneud â'r fenter.

"Fel rhan o'n Cynllun Busnes Tai - Gartref ym Mhowys, rydym am annog a chefnogi dyfodol gwyrddach i'n hystadau tai cyngor a gwella llesiant ein tenantiaid.

"Nid yn unig fydd y fenter hon yn hybu bioamrywiaeth a chael effaith gadarnhaol ar ein tenantiaid ond bydd hefyd yn ein helpu ni i ddarparu Powys wyrddach."

Dywed Jacqui Gough, cyfarwyddwr SWG: "Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd i sicrhau bod ein safleoedd adeiladu mor wyrdd ag sy'n bosibl, felly pan glywon ni am brosiect Cysylltiadau Gwyrdd Powys roeddem ni'n awyddus iawn i fod ynghlwm ag e.

"Mae pob un o'r safleoedd sydd ynghlwm â'r prosiect yn brosiectau tai yr ydym wedi eu cwblhau i Gyngor Sir Powys, felly hoffem ddiolch iddyn nhw am alluogi'r blychau cynefinoedd i gael eu gosod ac am gytuno i gadw llygad arnynt i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu cynnal a'u cadw."

Dywed Lottie Glover, Swyddog Bywyd Gwyllt Cymunedol Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn:  "Rydym wrth ein boddau o weithio gyda SWG a Chyngor Sir Powys i ddarparu rhagor o le i fywyd gwyllt. Nid yn unig fydd gosod y blychau hyn yn gwella bioamrywiaeth yn yr ardal, bydd hefyd yn ddiau yn cael effaith gadarnhaol ar breswylwyr lleol, a'u cysylltu â natur ar stepen y drws - rhywbeth y gwyddom sydd o fudd anferthol i lesiant." 

Am ragor o wybodaeth am brosiect Cysylltiadau Gwyrdd Powys, ewch i www.montwt.co.uk/our-projects/green-connections-powys

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu