Gweithwyr Gofal Dydd a Nos Preswyl
Hyfforddiant a Chefnogaeth ar gyfer y rôl
Byddwn yn rhoi'r holl hyfforddiant a chefnogaeth sydd eu hangen arnoch i ennill cymhwyster mewn FfCCh/Diploma NVQ Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Plant a Phobl Ifanc o fewn dwy flynedd y dechreuodd eich cyflogaeth.
Er mai eich cyfrifoldeb personol chi fydd cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, byddwn yn eich cefnogi i wneud hyn. Byddwn yn eich helpu i ddangos tystiolaeth o'ch cymwyseddau trwy eich ymarfer gwaith ac yn eich galluogi i gwblhau'r Dyfarniad Egwyddorion a Gwerthoedd neu'r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan i ddatblygu ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Byddwn yn eich hyfforddi yn y model therapiwtig i gysylltu'n emosiynol â phlant. Byddwch yn derbyn goruchwyliaeth grŵp myfyriol yn barhaus a gefnogir gan seicolegydd clinigol.
Byddwn yn darparu pecyn cynefino cynhwysfawr a fydd yn cynnwys rheoli ymddygiad cadarnhaol, cymorth cyntaf, hyfforddiant diogelwch tân, hylendid bwyd, gofal a meddyginiaeth. Byddwch yn cyflawni cwrs e-ddysgu gorfodol a bydd y cyfnod cynefino'n rhoi cyfle i chi ddod i adnabod eich tîm, polisïau a gweithdrefnau, a'r cartref lle byddwch yn darparu gofal.
Bydd bod yn rhan o Wasanaethau Plant Powys yn golygu eich bod yn rhan o gymuned ddysgu a chyfle i wneud cais i'n rhaglen Gweithiwr Cymdeithasol 'Datblygu eich hun' neu Ddiploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Bydd gennych fynediad i ddigwyddiadau hyfforddi ar-lein ac wyneb yn wyneb megis:
- Theori Ymlyniad
- Ymddygiad Heriol
- Datblygiad Plant
- Cyffyrddiad Priodol
- Seminarau Cymunedau Ymarfer sy'n archwilio materion megis Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant