Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithwyr Gofal Dydd a Nos Preswyl

Ein Cartref

Mae Cyngor Sir Powys mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn agor Cartref Plant Therapiwtig o'r radd flaenaf, yn ein cymuned leol ac mae angen eich cefnogaeth arnom. 

Lleolir ein cartref yng nghefn gwlad hyfryd Gogledd Powys, ger pentref heddychlon Llanbrynmair. Mae'n breswylfa eang gyda thair ystafell wely, llety cysgu i staff, ystafell therapi, clydfan gyfforddus, lolfa ac ystafell fwyta sy'n arwain i ardd fawr.

Bydd ein cartref yn cefnogi 3 phlentyn/unigolyn ifanc (11-18 oed) sydd ag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol cymhleth oherwydd eu profiad bywyd cynnar.

Bydd y gofod y tu allan yn ein cartref yr un mor bwysig â'r tu mewn, gan roi cyfle i blant a phobl ifanc ofalu a mwytho anifeiliaid bach, garddio trwy dyfu ffrwythau, llysiau a blodau; i bawb yn ein cartref fwynhau manteision therapiwtig awyr iach ac ymarfer corff mewn amgylchedd hardd. 

Fel rhan o dîm ymroddedig, byddwch yn creu cartref diogel a fydd yn gwella sefydlogrwydd lleoliadau a gallu rhianta i gefnogi plant a phobl ifanc sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth i gyflawni canlyniadau cadarnhaol, gwella eu cyfleoedd mewn bywyd a'u lles cymdeithasol.  Bydd y cyfle unigryw hwn ym Mhowys yn ein galluogi i gefnogi plant yn eu cymunedau eu hunain, fel rhan o'n gweledigaeth i alluogi plant i aros yn agosach at eu cartrefi.

Gofal Therapiwtig

Nod Gofal Therapiwtig yw hyrwyddo newid personol, a adlewyrchir mewn newidiadau mewn meddwl, gweithredu emosiynol ac ymddygiadol.  Bydd y tîm yn cael ei hyfforddi i fod yn wybodus am drawma i helpu plant a phobl ifanc i wella o'u trallod cynnar drwy ddatblygu mwy o ymddiriedaeth emosiynol a diogelwch mewn oedolion.