Toglo gwelededd dewislen symudol

Rolau Arweinwyr Gofal Preswyl

Gwerthoedd a rennir

Rydym yn chwilio am bobl sy'n gofalu ac yn gallu cysylltu â phobl ifanc. Bydd gennych brofiad helaeth mewn Gofal Preswyl, efallai bod gennych brofiad therapiwtig neu'n chwilio am leoliad therapiwtig i ddatblygu eich gyrfa.  Byddwch yn gallu dangos sut rydych yn rhannu ein gwerthoedd pan fyddwch wedi gweithio/gwirfoddoli/gofalu/cefnogi ac ysbrydoli pobl ifanc mewn ffyrdd eraill. 

Ein gwerthoedd: Proffesiynol, Cadarnhaol, Blaengar, Agored, Cydweithredol 

Rydym yn chwilio am bobl i weithio gyda ni i alluogi: 

Rhianta CADARNHAOL 

  • Allwch chi ddangos i ni sut rydych yn adeiladu perthnasoedd o ymddiriedaeth, i addysgu cysylltiad cyn cywiro? 
  • Ydych chi'n gallu meithrin ffiniau mewn modd amyneddgar a digynnwrf? 

Cymorth arbenigol PROFFESIYNOL  

  • Ydych chi eisiau bod yn rhan o dîm sy'n rhoi theori ar waith?  Byddwch yn dysgu am Ofal therapiwtig ac yna'n defnyddio'ch gwybodaeth i wneud gwahaniaeth gyda mewnbwn arbenigwyr eraill. 
  • Byddwch yn gallu dilyn polisïau, gweithdrefnau a safonau cytunedig yn eich gwaith a darparu gwasanaeth diogel ac effeithiol, sy'nsensitif i anghenion plant a phobl ifanc. 

Cyfrifoldeb AGORED 

  • Ydych chi'n fyfyriol, yn amcanus, ac yn agored i ddatblygu'ch hun gyda'ch tîm? 
  • Byddwch yn onest, yn agored, ac ni fydd ofn arnoch gyfaddef pan fyddwch wedi gwneud camgymeriad i greu diwylliant o ymddiriedaeth

Cyfleoedd BLAENGAR 

  • Allwch chi ysgogi plant a phobl ifanc, i ehangu a datblygu eu profiad trwy weithgareddau y tu mewn a'r tu allan, sgiliau newydd, ac addysg i hyrwyddo lles a chanfod eu gallu? 
  • Bydd gennych agwedd 'gallu gwneud' ac yn parhau i ddal ati i roi cynnig ar syniadau newydd tan eich bod yn dod o hyd i ffordd o gysylltu ac ysbrydoli, ni fyddwch yn rhoi'r gorau iddi! 

Hyrwyddo yn GYDWEITHREDOL  

  • Allwch chi weithio gyda phlant a phobl ifanc a'ch tîm i hyrwyddo'r canlyniadau gorau yn ein cartref? 
  • Ydych chi'n ddewr, yn barod i hyrwyddo ansawdd, a chodi pryderon
  • Byddwch yn gallu gwrando gydag urddas a pharch ar y plant a'r bobl ifanc rydym yn eu cefnogi. 

Os ydych yn rhannu ein gwerthoedd ac mae ots gennych, rydym eich angen chi!