Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Rolau Arweinwyr Gofal Preswyl

Hyfforddiant a Chefnogaeth ar gyfer y rôl

Byddwn yn  hyfforddi'r tîm cyfan yn y model therapiwtig i gysylltu'n emosiynol â phlant.  Byddwch yn derbyn goruchwyliaeth grŵp myfyriol yn barhaus a gefnogir gan seicolegydd clinigol. 

Fel Rheolwr Cofrestredig, bydd gennych Lefel 5 yn barod mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Rheoli Gwasanaethau Preswyl i Blant a Phobl Ifanc).  Byddwch yn cael eich cefnogi i ddarparu lleoliad therapiwtig, ymgysylltu, a gweithredu gyda thîm hyfforddi'r Gwasanaethau Plant i sicrhau bod yr hyfforddiant cywir yn ei le i'ch tîm fodloni'r anghenion.

Fel Dirprwy Reolwr Gofal, bydd gennych Ddiploma Lefel 3 yn barod mewn Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc).  Rydym hefyd yn gofyn eich bod yn gweithio tuag at Ddiploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol gan gwblhau o fewn blwyddyn o'ch dyddiad dechrau; byddwn yn eich cefnogi i ymgymryd â'r cymhwyster hwn.  Byddwch yn cefnogi'r Rheolwr Cofrestredig i roi'r hyfforddiant cywir yn ei le ar gyfer eich tîm.

Fel Uwch Weithiwr Gofal Preswyl, bydd gennych Ddiploma Lefel 3 yn barod mewn Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc). Byddwch yn awyddus i ddatblygu a dangos eich gwybodaeth breswyl gyda'ch tîm, gan gefnogi'r tîm yn ei anghenion hyfforddiant parhaus. 

Eich cyfrifoldeb personol chi fydd cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Byddwn yn darparu pecyn cynefino cynhwysfawr a fydd yn cynnwys rheoli ymddygiad cadarnhaol, cymorth cyntaf, hyfforddiant diogelwch tân, hylendid bwyd, gofal a meddyginiaeth.  Byddwch yn cyflawni cwrs e-ddysgu gorfodol a bydd y cyfnod cynefino'n rhoi cyfle i chi ddod i adnabod eich tîm, polisïau a gweithdrefnau, a'r cartref lle byddwch yn darparu gofal. 

Bydd bod yn rhan o Wasanaethau Plant Powys yn golygu eich bod yn rhan o gymuned ddysgu a chyfle i wneud cais i'n rhaglen Gweithiwr Cymdeithasol 'Datblygu eich hun' neu Ddiploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.   

Bydd gennych fynediad i ddigwyddiadau hyfforddi ar-lein ac wyneb yn wyneb megis: 

  • Theori Ymlyniad 
  • Ymddygiad Heriol 
  • Datblygiad Plant  
  • Cyffyrddiad Priodol 
  • Seminarau Cymunedau Ymarfer sy'n archwilio materion megis Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant