Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Adolygiad o Wasanaethau Cwsmer Cyngor Sir Powys

Phone

28 Ebrill 2023

Phone
Phone
Mae Cyngor Sir Powys wedi comisiynu adolygiad cynhwysfawr o sut mae'n darparu ei wasanaethau cwsmer, gyda'r nod o ddeall barn pobl Powys am y ffordd y mae'r Cyngor yn rhyngweithio â'i gwsmeriaid, canfod pa broblemau y mae'r cyhoedd a busnesau wedi eu hwynebu wrth gysylltu â'r Cyngor, a chasglu awgrymiadau ynglŷn â sut yr hoffent ryngweithio â'r Cyngor yn y dyfodol. Bydd y wybodaeth a gesglir yn rhoi'r cyfle i'r Cyngor ddatblygu modelau newydd gwell o ddarparu gwasanaethau cwsmer.

Mae'r Cyngor wedi comisiynu cwmni ymgynghori, BetterGov i helpu'r Cyngor gyda'r adolygiad hwn ac yn ei dro bydd DJS Market Research yn cysylltu ag aelodau o'r cyhoedd dros y ffôn neu wyneb yn wyneb mewn mannau cyhoeddus i gasglu eu barn.

Byddai Cyngor Sir Powys yn ddiolchgar iawn pe baech yn cymryd ychydig o amser i roi eich barn i DJS Market Research os ydynt yn cysylltu â chi.  Mae eich barn yn werthfawr iawn i ni.

Disgwylir y bydd yr arolygon yn rhedeg tan 21 Mai 2023.