Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cyngor yn ei gwneud hi'n haws i gwmniau bach gynnig am gontractau

Planning

02 Mai 2023

Planning
Mae'r cyngor sir wedi dweud ei fod wedi cwblhau system gaffael newydd, sy'n ei gwneud yn haws i gontractwyr gynnig am gontractau adeiladu.

Mae System Prynu Deinamig newydd y cyngor (DPS) wedi'i dylunio fel ei bod yn haws i fusnesau bach a chanolig i gymryd mân brosiectau adeiladu sy'n costio rhwng £50,000 a £500,000, gyda'r nod o ddarparu llwybr mwy hygyrch a syml i dendro am waith.

Hyd yn hyn, mae 17 o gontractwyr wedi bod yn llwyddiannus yn ymgeisio i'r DPS, gan roi'r cyfle iddynt dderbyn hysbysiadau am gyfleoedd i gynnig am waith. Gall y rhain gynnwys gwaith mewn eiddo sy'n berchen i'r cyngor gan gynnwys tai ac adeiladau corfforaethol gan gynnwys ysgolion, llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, cartrefi gofal, canolfannau dydd.

Gall contractwyr sydd â diddordeb mewn gwneud cais i'r DPS wneud hynny ar unrhyw adeg. Bydd angen cofrestriad Iechyd a Diogelwch trydydd parti SSIP arnynt, dylent fod wedi cofrestru gyda Constructionline i isafswm o statws Lefel 2 (Arian) gyda chategorïau gwaith perthnasol ac yn meddu ar lefelau priodol o yswiriant. 

Mae mwy o wybodaeth ar gael trwy wefan GwerthwchiGymru Llywodraeth Cymru, neu gallwch gysylltu â commercialservices@powys.gov.uk lle bydd aelod o'r tîm yn gallu helpu.

Dywedodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Cyllid a Thrawsnewid Corfforaethol, y Cynghorydd David Thomas: "Mae'n wych gweld bod y DPS bellach ar waith ac rydym yn falch ein bod yn cynnig y system haws hon i gefnogi busnesau bach i ganolig i gael mynediad i waith adeiladu'r cyngor.

"Mae'n wych gweld bod 17 o fusnesau eisoes wedi cael eu cymeradwyo, a hoffwn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno i gysylltu. Bydd ein tîm yn gallu eich cefnogi i wneud cais neu roi mwy o wybodaeth i chi, os oes angen."

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y DPS, neu drafod y gofynion am waith gwerth is, anfonwch e-bost at commercialservices@powys.gov.uk, neu cysylltwch â:

  • Claire Davies ar 01597 827686
  • Garry Leatherland ar 01597 826081