Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog yn ymweld â Little Troopers

Image of Armed Forces Champion Cllr Matthew Dorrance meeting Little Troopers from Mount Street Infants School in Brecon

2 Mai 2023

Image of Armed Forces Champion Cllr Matthew Dorrance meeting Little Troopers from Mount Street Infants School in Brecon
Mae grŵp o blant o ysgol gynradd yn Aberhonddu wedi dweud wrth uwch gynghorydd Cyngor Sir Powys am yr hyn y mae'n golygu iddyn nhw i fod yn Blant Milwrol.

Gwnaeth blant o Little Troopers yn Ysgol Fabanod Mount Street cwrdd â'r Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd a Hyrwyddwr y Cyngor ar gyfer y Lluoedd Arfog ddydd Iau, 27 Ebrill.

Fel rhan o'i ymweliad, gwnaeth y Cynghorydd Dorrance annerch y disgyblion yn ystod eu gwasanaeth boreol am yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn Hyrwyddwr y Cyngor ar gyfer y Lluoedd Arfog a'r hyn sydd ynghlwm a'r rôl.

Yna clywodd y Cynghorydd Dorrance gan blant o Little Troopers yr ysgol, a buont yn sôn am yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn Blentyn Milwrol a'u profiadau.

Cynhaliwyd y digwyddiad yn ystod Mis y Plentyn Milwrol, mis ymwybyddiaeth sy'n tynnu sylw at y rôl bwysig sydd gan blant mirwrol yng nghymuned y Lluoedd Arfog.

"Roedd hi'n anrhydedd cael cwrdd â'r Little Troopers yn Ysgol Fabanod Mount Streets a siarad am y rôl Pencampwr y Lluoedd Arfog," meddai'r Cynghorydd Dorrance.

"Mae gan blant mirwrol rôl bwysig yng nghymuned y Lluoedd Arfog ac roedd yn bwysig clywed gan y Little Troopers am eu profiadau a beth mae'n ei olygu i fod yn Blant Milwrol.

"Rwy'n falch iawn bod fy ymweliad ag Ysgol Fabanod Mount Street wedi digwydd yn ystod mis y Plentyn Milwrol, sy'n gyfnod i gymeradwyo teuluoedd y Lluoedd Arfog a'u plant am eu haberthau dyddiol a'r heriau y maen nhw'n eu goresgyn."

Dywedodd Shan Kenchington, Pennaeth Ysgol Fabanod Mount Street: "Roeddem mor falch i groesawu'r Cynghorydd Dorrance i'n hysgol fel rhan o'n dathliadau yn ystod mis y Plentyn Milwrol. Mae'n golygu cymaint i gymuned yr ysgol i wybod bod gennym aelod penodedig yn y Cabinet sy'n cynrychioli ein teuluoedd milwrol."