Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cyfnod newydd yn dechrau ar gyfer Ysgol Gymraeg Y Trallwng

Image of Ysgol Gymraeg Y Trallwng

4 Mai 2023

Image of Ysgol Gymraeg Y Trallwng
Mae cyfnod newydd wedi dechrau ar gyfer ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yng ngogledd Powys ar ôl i ddisgyblion a staff symud i'w hadeilad newydd yr wythnos hon. 

Yr adeilad ysgol newydd hwn ar gyfer Ysgol Gymraeg y Trallwng sydd â lle i 150 o blant yw'r prosiect diweddaraf sydd wedi'i gwblhau gan Gyngor Sir Powys o dan ei Raglen Trawsnewid Addysg.

Fel rhan o'r rhaglen, mae'r cyngor eisoes wedi adeiladu un ysgol uwchradd newydd a naw ysgol gynradd ac hefyd wedi gwneud gwaith ailfodelu mewn ysgol gynradd ac ysgol uwchradd.

Yr wythnos hon (dydd Mawrth 2 Mai), bu disgyblion a staff Ysgol Gymraeg Y Trallwng yn symud i'w hadeilad newydd, gan nodi'r bennod nesaf yn hanes yr ysgol.

Mae'r prosiect £9.1m, sy'n cynnwys yr ysgol, y blynyddoedd cynnar a chyfleusterau cymunedol, wedi'i ariannu ar y cyd gan y cyngor a Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru (a elwid yn flaenorol yn Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif).

Mae'r cynllun arloesol ar gyfer yr ysgol newydd, a gafodd ei adeiladu gan Wynne Construction ar ran y cyngor, yn cyfuno'r hen a'r newydd a bydd yn darparu cyfleusterau gwych i ddisgyblion Ysgol Gymraeg y Trallwng a chymuned Y Trallwng tra ar yr un pryd yn cynnal presenoldeb eiconig Ysgol Maesydre.

Cafodd yr hen adeilad rhestredig Gradd II ei adnewyddu er mwyn cynnwys ardaloedd staff, blynyddoedd cynnar a chyfleusterau cymunedol ynghyd â choridor cyswllt drwodd i'r adeilad newydd, sy'n cynnwys neuadd yr ysgol ac ystafelloedd dosbarth. Yr adeilad hwn fydd prosiect hybrid cyntaf Passivhaus yn y DU, sy'n golygu ei fod yn ynni-effeithlon iawn.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Mae hwn yn achlysur hanesyddol i bawb yn ysgol Gymraeg Y Trallwng, sydd wedi symud i'w hadeilad newydd o'r diwedd - chwe blynedd ers cynnig y cynlluniau i godi ysgol newydd, a gorfod goresgyn nifer o rwystrau yn y cyfamser.

"Mae hwn yn ddatblygiad gwych, sydd bellach yn un o'r adeiladau mwyaf ynni-effeithlon yn y DU a bydd yn cyfrannu at leihau allyriadau carbon yn y sir.

"Bydd yr adeilad newydd yn cynnig amgylchedd i ddisgyblion a staff addysgu gyrraedd eu potensial tra'n darparu cyfleusterau cymunedol pwysig.

"Mae hwn yn ddatblygiad pwysig i'r cyngor gan ei fod yn cefnogi ein nodau a'n dyheadau yn ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg ar gyfer 2022-32 a'r Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys a bydd yn helpu i gyfrannu at ddyheadau Llywodraeth Cymru i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

"Hoffwn ddiolch hefyd i Lywodraeth Cymru am gyfrannu hanner y cyllid i ddatblygu'r ysgol newydd hon ac am gefnogi'r cyngor yn ystod hynt a helynt y prosiect hwn.

"Hoffwn ddymuno'r gorau i bawb yn Ysgol Gymraeg Y Trallwng yn eu hamgylchoedd newydd ac edrychaf ymlaen at gael ymweld â nhw ar y cyfle cyntaf."

I ganfod mwy am addysg Gymraeg ym Mhowys, ewch i Taith at Ddwy Iaith.