Toglo gwelededd dewislen symudol

Y Cyngor yn cefnogi Sioe Filwrol Aberhonddu

Image of a military personnel playing at a show

10 Mai 2023

Image of a military personnel playing at a show
Mae cyfle i drigolion Powys gael cipolwg ar sut beth yw bywyd ar y rheng flaen pan fydd sioe filwrol yn cael ei chynnal yn ddiweddarach yn y mis.

Bydd Sioe Filwrol Aberhonddu yn cael ei chynnal yn Ysgol Frwydro'r Troedfilwyr yn Dering Lines ddydd Sadwrn 27 Mai rhwng 12-4pm.

Bydd gan y sioe, sy'n cael ei chefnogi gan Gyngor Sir Powys, amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys:

  • Sleid castell gwynt
  • Cwrs rhwystrau bach
  • Rygbi cadair olwyn
  • Sioe ddiwylliannol y Gurkhas
  • Patrwm Gurkha Khukuri
  • Beic ymarfer smwddîs
  • Arddangos arfau milwrol
  • Jyngl a lôn oroesi
  • Tŵr dringo.

Meddai'r Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Powys a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: "Fel Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, rwy'n falch iawn bod y cyngor unwaith eto yn cefnogi Sioe Filwrol Aberhonddu eleni.

"Mae Sioe Filwrol Aberhonddu yn ddiwrnod lle gall ymwelwyr gymryd rhan mewn profiadau llawn adrenalin, sy'n gwneud y galon i guro'n gyflymach neu i wylio rhai o'r arddangosfeydd a fydd i'w gweld yn ystod y dydd. Mae rhywbeth i bawb ei fwynhau yn y sioe eleni."

Pris mynediad i Sioe Filwrol Aberhonddu yw £4 i oedolyn a £1 i blant dan 16 oed.

Mae parcio am ddim ond dim ond ar gyfer y 400 car cyntaf.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu