Llwybr Glyndŵr - gwelliannau hanfodol i'r llwybr yn dod â manteision i bawb
11 Mai 2023
Helen Tatchell yw Swyddog Llwybr Cenedlaethol Llwybr Glyndŵr ac hi sy'n gyfrifol am reoli'r llwybr sy'n cynnwys arolygu a rheoli gwelliannau. Ymhlith y gwelliannau a wnaed eleni, mae contractwyr wedi adeiladu llwybr agregau newydd yn gyfochrog â darn prysur iawn o briffordd, sef ffordd B4518 o Lanidloes i Benffordd-las. Meddai Helen: "Mae'r darn newydd yn cysylltu dwy ran o lwybrau troed tir amaethyddol Llwybr Glyndŵr ac yn cynnig llwybr diogel i bawb sy'n defnyddio Llwybr Cenedlaethol Glyndŵr yn yr ardal. Cyn hyn, roedd yn rhaid i gerddwyr gerdded ar y ffordd neu ar fin tolciog y ffordd ger y ffos, ond erbyn hyn mae'r llwybr yn un llawer mwy dymunol a diogel".
Cafodd y gwaith ei wneud gan gontractwr lleol gyda chyn lleied o aflonyddu â phosibl i ddefnyddwyr y llwybr a thraffig lleol, ac fe'i ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Mae'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet dros Bowys Gwyrddach yn cefnog bywyd yr awyr agored yn frwd: "Yma ym Mhowys rydym yn ffodus o gael dewis rhyfeddol o deithiau cerdded a llwybrau ar hyd a lled y sir, gan gynnwys Ffordd Glyndŵr.
"Mae'r Llwybr Cenedlaethol hwn o bwysigrwydd diwylliannol yn eich tywys i rai o nodweddion tirwedd gorau'r sir, ac rydym bob amser yn hapus i groesawu'r cerddwyr niferus sy'n ymweld â Phowys i fwynhau'r dirwedd amrywiol a'r lletygarwch cynnes a geir yn ein trefi marchnad a'n pentrefi pert a'n cymunedau gwledig ar hyd y llwybr hwn.
"Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru am eu cefnogaeth barhaus i helpu Helen a gweddill tîm Mynediad Cefn Gwlad a Hamdden y cyngor, i sicrhau bod y llwybrau cerdded hyn yn cael eu cynnal ac yn parhau i fod ar gael i bawb eu mwynhau."
Ymhlith y datblygiadau eraill ar y llwybr mae datblygu teithiau cerdded undydd newydd, Glyndwr's Way - Cylchdaith a Llinol - Llwybrau Cenedlaethol sy'n cynnig teithiau cerdded undydd anhygoel i gerddwyr a luniwyd gan yr awdur teithio adnabyddus, Paddy Dillon.