Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Llwybr Glyndŵr - gwelliannau hanfodol i'r llwybr yn dod â manteision i bawb

Image of path improvements to the Glyndwr's Way National Trial

11 Mai 2023

Image of path improvements to the Glyndwr's Way National Trial
Mae Mis Mai yn Fis Cerdded Cenedlaethol, amser gwych i ddarganfod llwybrau cerdded niferus y Canolbarth. Yn eu plith mae Llwybr Glyndwr, Llwybr Cenedlaethol 135 milltir (217 km) o hyd, lle gall cerddwyr fwynhau'r gorau o'r Canolbarth - rhostir agored, tir amaeth tonnog, coetir a choedwig. Gan ddechrau yn Nhref-y-clawdd a gorffen yn y Trallwng, mae'r llwybr hwn yn enwog am ei bellenigrwydd a'i olygfeydd ysblennydd.

Helen Tatchell yw Swyddog Llwybr Cenedlaethol Llwybr Glyndŵr ac hi sy'n gyfrifol am reoli'r llwybr sy'n cynnwys arolygu a rheoli gwelliannau. Ymhlith y gwelliannau a wnaed eleni, mae contractwyr wedi adeiladu llwybr agregau newydd yn gyfochrog â darn prysur iawn o briffordd, sef ffordd B4518 o Lanidloes i Benffordd-las. Meddai Helen: "Mae'r darn newydd yn cysylltu dwy ran o lwybrau troed tir amaethyddol Llwybr Glyndŵr ac yn cynnig llwybr diogel i bawb sy'n defnyddio Llwybr Cenedlaethol Glyndŵr yn yr ardal. Cyn hyn, roedd yn rhaid i gerddwyr gerdded ar y ffordd neu ar fin tolciog y ffordd ger y ffos, ond erbyn hyn mae'r llwybr yn un llawer mwy dymunol a diogel".

Cafodd y gwaith ei wneud gan gontractwr lleol gyda chyn lleied o aflonyddu â phosibl i ddefnyddwyr y llwybr a thraffig lleol, ac fe'i ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Mae'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet dros Bowys Gwyrddach yn cefnog bywyd yr awyr agored yn frwd: "Yma ym Mhowys rydym yn ffodus o gael dewis rhyfeddol o deithiau cerdded a llwybrau ar hyd a lled y sir, gan gynnwys Ffordd Glyndŵr.

"Mae'r Llwybr Cenedlaethol hwn o bwysigrwydd diwylliannol yn eich tywys i rai o nodweddion tirwedd gorau'r sir, ac rydym bob amser yn hapus i groesawu'r cerddwyr niferus sy'n ymweld â Phowys i fwynhau'r dirwedd amrywiol a'r lletygarwch cynnes a geir yn ein trefi marchnad a'n pentrefi pert a'n cymunedau gwledig ar hyd y llwybr hwn.

"Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru am eu cefnogaeth barhaus i helpu Helen a gweddill tîm Mynediad Cefn Gwlad a Hamdden y cyngor, i sicrhau bod y llwybrau cerdded hyn yn cael eu cynnal ac yn parhau i fod ar gael i bawb eu mwynhau."

Ymhlith y datblygiadau eraill ar y llwybr mae datblygu teithiau cerdded undydd newydd, Glyndwr's Way - Cylchdaith a Llinol - Llwybrau Cenedlaethol  sy'n cynnig teithiau cerdded undydd anhygoel i gerddwyr a luniwyd gan yr awdur teithio adnabyddus, Paddy Dillon.