Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyllid gan Lywodraeth Cymru i drawsnewid Llyfrgell Ystradgynlais

Picture of a computer in a library

12 Mai 2023

Picture of a computer in a library
Mae'r cyngor sir wedi dweud y bydd llyfrgell yn ne Powys yn cael ei thrawsnewid diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru gwerth bron i £270,000.

Bydd Llyfrgell Ystradgynlais yn cael ei hailfodelu ar ôl i Gyngor Sir Powys lwyddo i gael £268,682 gan Raglen Cyfalaf Trawsnewid Diwylliannol Llywodraeth Cymru.

Nod y rhaglen yw galluogi llyfrgelloedd cyhoeddus, amgueddfeydd lleol a gwasanaethau archif i drawsnewid darparu gwasanaethau, i foderneiddio eu cyfleusterau, i greu modelau mwy cynaliadwy o ddarparu gwasanaethau a galluogi cydweithio i weithio a gwella'r cynnig i bobl a chymunedau.

Fel rhan o'r cynigion ail-fodelu, mae'r cyngor yn bwriadu darparu'r canlynol yn Llyfrgell Ystradgynlais:

  • Cyfleusterau gweithio o bell mewn ardaloedd cyfrinachol
  • Podiau cyfarfod y gellir eu harchebu ar gyfer apwyntiadau wyneb yn wyneb / digidol
  • 'Ystafelloedd Zoom' a gofodau dysgu cysylltedd digidol gan gynnwys gweithgareddau gemau
  • Sylw i dreftadaeth leol, drwy ymchwilio casgliadau a gweithgareddau diwylliannol ledled Powys a Chymru
  • Corneli darllen ar gyfer iechyd meddwl
  • Gofodau ar gyfer siopau dros dro fel bod cynhyrchwyr lleol yn gallu arddangos eu sgiliau
  • Gwell mynediad i bobl anabl, darpariaeth banc cynnes a gweithgareddau dysgu i blant er mwyn helpu i gefnogi pobl fregus yn yr ardal
  • Ardaloedd cymdeithasol cyfforddus a gofod hyblyg ar gyfer gweithgareddau a thrafodaethau eang
  • Datblygu gardd ar gyfer gweithgareddau diwylliannol a dysgu amgylcheddol
  • Seilwaith adeiladu wedi'i uwchraddio ar gyfer effeithlonrwydd ynni - paneli solar gyda storfa batris, goleuadau LED a gwell insiwleiddio.

Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus: "Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu sicrhau'r cyllid hwn a hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth.

"Mae Llyfrgell Ystradgynlais angen ei hailfodelu er mwyn gallu cwrdd â gofynion cynyddol gan y gymuned, gyda mwy o bwyslais ar fynediad digidol â chymorth o leoliadau cymunedol dibynadwy, gan leihau effeithiau amgylcheddol yr adeilad ac atal pobl rhag gorfod teithio'n ddiangen.

"Roedd effaith Covid-19 wedi gwneud i ni ystyried beth yw ystyr gofod cymdeithasol a'r angen i gyfleusterau a gwasanaethau cyhoeddus addasu yn y dyfodol.

"Gyda'r cynllun hwn, bydd gan drigolion Ystradgynlais ofod llyfrgell aml-bwrpas, hyblyg sydd â'r adnoddau sy'n addas i'w cymuned. Rydym am ailddatblygu llyfrgell sy'n rhoi anghenion y presennol a'r dyfodol wrth ei chalon.

"Bydd y cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru yn ein helpu i gyflawni'r weledigaeth hon ar gyfer Llyfrgell Ystradgynlais."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu