Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru, Y Trallwng ar restr fer gwobrau adeiladu
12 Mai 2023
Mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Y Trallwng, a agorodd ei drysau ym mis Ionawr 2021, yn cystadlu am ddwy wobr yn y Gwobrau Adeiladu Rhagoriaeth yng Nghymru 2023.
Mae gwobrau Adeiladu Rhagoriaeth yng Nghymru yn cael eu cydnabod ar draws y maes amgylchedd adeiledig yng Nghymru fel y dathliad mwyaf a'r un mwyaf disglair o arfer gorau yng Nghymru.
Mae adeilad yr ysgol, a adeiladwyd fel rhan o Raglen Trawsnewid Addysg y cyngor, wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategoriau'r Wobr Gynaliadwyedd a'r Wobr Gwerth.
Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal fis nesaf (dydd Gwener, 16 Mehefin) yng ngwesty'r Celtic Manor, Casnewydd.
Adeiladwyd yr ysgol gan Pave Aways Ltd, a dyluniwyd gan Architype (Architects) a WSP (Engineering all Disciplines). Dyma'r ysgol gynradd Passivhaus gyntaf a adeiladwyd gan y cyngor, gan fodloni'r safonau ynni effeithlon cadarn sydd eu hangen ar gyfer ardystiad Passivhaus.
Wedi'i hadeiladu o amgylch ffrâm bren o ffynonellau cynaliadwy yng Nghymru, mae gan yr ysgol lefel uwch o insiwleiddio ac fe'i hadeiladwyd i fod yn aerdyn. Mae ganddi hefyd system adfer gwres ac awyru a phaneli solar ar y to i leihau costau rhedeg.
Ariannwyd y prosiect ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a'r cyngor.
Meddai'r Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar faterion Powys sy'n Dysgu: "Rwyf wrth fy modd bod Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Y Trallwng wedi cael ei chynnwys ar y rhestr fer yn y gwobrau adeiladu nodedig hyn.
"Nid yn unig mae hwn yn gyfleuster gwych sy'n caniatáu i ddysgwyr a staff addysgu gyrraedd eu potensial ond mae wedi ei adeiladu i'r safonau ynni effeithlon uchaf sy'n helpu'r sir i leihau ei ôl troed carbon."