Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Camu i lawr o'r Cabinet

Susan McNicholas

12 Mai 2023

Susan McNicholas
Mae'r Cynghorydd Susan McNicholas Aelod Cabinet ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol wedi cyhoeddi y bydd yn camu i lawr o'i rôl ar y Cabinet yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ar 18 Mai.

Dywedodd y Cynghorydd McNicholas, sy'n cynrychioli Ward Ynysgedwyn ac sydd wedi bod yn aelod o'r cabinet ers mis Mai 2022, ei bod yn rhoi'r gorau iddi oherwydd rhesymau iechyd.

Mae hi'n aelod o Blaid Lafur Cymru ac yn rhannu cyfrifoldeb portffolio'r Cabinet gyda'r Cynghorydd Sandra Davies a fydd yn cymryd cyfrifoldebau llawn y Cabinet yn llawn amser. 

"Mae gwasanaethu ar y Cabinet wedi bod yn anrhydedd ac rwy'n credu'n gryf ein bod fel Cabinet eisoes wedi cael effaith gadarnhaol ar fywydau trigolion a busnesau ym Mhowys," meddai'r Cynghorydd McNicholas. 

"Rwyf wedi gwerthfawrogi fy amser ar y Cabinet, a hoffwn ddymuno'n dda i fy nghydweithwyr ar y cabinet i'r dyfodol.  Byddaf yn parhau fel y Cynghorydd Sir yn cynrychioli Ward Ynysgedwyn."

Diolchodd yr Arweinydd, y Cynghorydd James Gibson-Watt i'r Cynghorydd McNicholas am ei gwaith caled a'i chyfraniadau i'r cabinet yn ystod y 12 mis cyntaf o fywyd y Cabinet newydd.

"Yn ystod ei hamser ar y Cabinet mae Susan wedi dangos didwylledd, teyrngarwch ac angerdd yn ei rôl ac rwy'n dymuno'n dda iddi yn y dyfodol," meddai.