Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Fforwm ecolegol i roi cyngor ar adfer Camlas Maldwyn

Montgomery Canal

16 Mai 2023

Montgomery Canal
Mae'n fwriad sefydlu fforwm ecolegol i adolygu a rhoi cyngor ar gynlluniau i adfer Camlas Maldwyn.

Bydd yn cefnogi datblygu cynllun monitro hirdymor i fanteisio i'r eithaf ar fuddion ecolegol cyn y gwaith adfer llawn, gan adeiladu ar waith blaenorol a gwblhawyd o ran cyflawni hyn mewn ffordd gynaliadwy.

Hefyd, bydd Glandŵr Cymru (yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yng Nghymru) a Chyngor Sir Powys yn defnyddio'r fforwm i rannu cynnydd a cheisio cyngor yn ystod y broses o wario bron £14 miliwn o gyllid Cronfa'r Ffyniant Bro, a dderbyniwyd gan y ddau sefydliad, mewn perthynas â Phrosiect Adfer Camlas Maldwyn, dros y ddwy flynedd nesaf.

Bydd yn cyfrannu at ailgysylltu'r ddyfrffordd yng Nghymru â rhwydwaith ehangach camlesi'r DU, ac mae'n cynnwys atgyweirio darn 4.4-milltir o hyd rhwng Llanymynech ac Arddlîn, nad yw'n bosibl ei fordwyo ar hyn o bryd, ail-adeiladu Pont Walls a Phont Williams i alluogi ei fordwyo yn y dyfodol, creu gwarchodfeydd natur dyfrol ar hyd y gamlas ym Mhowys, atgyweiriadau hollbwysig a gwelliannau i ddyfrbont  Aberbechan a gwelliannau i adeilad Y Lanfa a dau fwthyn ar Lanfa'r Trallwng.

Mae'r gamlas gyfan yng Nghymru yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) oherwydd ei fod yn gartref i fywyd planhigion, pryfed ac adar prin ac oherwydd ei bwysigrwydd rhyngwladol fel cartref planhigion dyfrol; yn ogystal mae'n Safle Cadwraeth Arbennig (SCA), y dynodiad cadwraeth uchaf trwy Ewrop.

"Bydd y fforwm yn ymddwyn fel seinfwrdd ar faterion gwyddonol, ecolegol a thechnegol sy'n berthnasol i Gamlas Maldwyn," yn ôl y Cyng. David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys fwy Llewyrchus. "Hefyd bydd yn helpu datblygu a chynnal cysylltiadau gyda'r gymuned ymchwil allanol ac arbenigwyr y sector hwn.

"Nod Prosiect Adfer Camlas Maldwyn yw darparu buddion economaidd, diwylliannol a llesiant hirdymor ar gyfer cymunedau lleol fel rhan o'n cynlluniau i sicrhau fod Powys yn lle cryfach, tecach a gwyrddach i fyw ynddo, ac rydym yn awyddus i hynny ddeillio o gael dyfrffordd sy'n gyfoeth o fywyd gwyllt, ac a reolir yn dda."

Dywed Jason Leach, Pennaeth Cyflenwi Rhaglenni Allanol Glandŵr Cymru: "Gwyddom fod Camlas Maldwyn yn lle lle mae bywyd gwyllt yn ffynnu, ac rydym yn awyddus i sicrhau taw felly fydd hi yn y dyfodol hefyd.

"Nid yw gwneud dim yn opsiwn. Ein blaenoriaeth yw sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer y gamlas a'i bywyd gwyllt, ac rydym yn hyderus y bydd ein cynlluniau a'r fforwm hwn yn gwireddu uchelgais y bartneriaeth."

I ddysgu rhagor am y prosiect ewch i: https://canalrivertrust.org.uk/about-us/where-we-work/wales-and-south-west/prosiect-adfer-camlas-maldwyn

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch y Gronfa Ffyniant Bro ym Mhowys, anfonwch ebost at: UKLUF@powys.gov.uk

I ddysgu rhagor am Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, ewch i:  https://www.gov.uk/government/publications/levelling-up-fund-round-2-prospectus.cy

LLUN: Camlas Maldwyn