Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng

Image of Welshpool Church in Wales Primary School

17 Mai 2023

Image of Welshpool Church in Wales Primary School
Bydd y Cabinet yn cael gwybod bod prosiect i adeiladu ysgol gynradd newydd yng ngogledd Powys wedi mynd dros ei gyllideb ragamcanol o £150,000.

Agorwyd Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng gan Gyngor Sir Powys ym mis Ionawr 2021 fel rhan o'i rhaglen Trawsnewid Addysg.

Cafodd y prosiect nifer o rwystrau ers cymeradwyo'r achos busnes gwreiddiol yn 2017 gan gynnwys Ysgol Maesydre yn cael ei rhestru gan Cadw, y prif gontractwyr yn mynd i'r wal gyda'r ysgol ar ei hanner, effaith Covid-19 a chostau chwyddiant.

Ers i'r ysgol agor, mae gwaith wedi cael ei wneud ar y mynediad allanol a gwaith ffordd ac fe gwblhawyd y rhain yr haf diwethaf.  Mae'r gorwariant o £150,000 ar gyfer y prosiect hwn yn gysylltiedig â'r gwaith allanol hwn.

Bydd y Cabinet yn ystyried y mater ddydd Mawrth, 23 Mai lle gofynnir iddynt gymeradwyo cyllid ychwanegol o £150,000 ar gyfer y prosiect gan fod y cyfrifon wedi'u cwblhau.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar faterion Powys sy'n Dysgu: "Mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng yn gyfleuster gwych sydd wedi gwella'r amgylchedd dysgu i ddisgyblion lleol yn sylweddol.

"Fodd bynnag, gorfodwyd y Cabinet blaenorol i newid cyfeiriad oherwydd i'n partner adeiladu mynd i'r wal, gyda chynnydd mewn costau ar sawl pwynt yn ei ddatblygiad.  Mae'r papur hwn yn nodi'r olaf o'r treuliau hynny mewn adroddiad terfynol.

"Mae llawer i'w ddysgu o reoli'r prosiect hwn a byddaf yn argymell i'r Cabinet y dylid cynnal yr adolygiad llawn o'r costau a'r gwersi yr oeddwn wedi galw amdano fel cadeirydd craffu. Bydd hyn yn cynnwys rhannu canfyddiadau o brosiect ysgol y Trallwng gyda Gweithgor Cyfalaf y pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio."