Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Penodi Cadeirydd newydd ar gyfer Cyngor Sir Powys

Image of Cllr Jonathan Wilkinson, Vice-Chair; Cllr Beverley Baynham, the new Chair of Powys County Council; Cllr James Gibson-Watt, Leader of Powys County Council; Cllr Gareth Ratcliffe, outgoing Chair; and Cllr William Powell, Assistant Vice-Chair

18 Mai 2023

Mae cynghorydd sir o Lanandras wedi ei benodi yn Gadeirydd newydd Cyngor Sir Powys.

Cafodd y Cynghorydd Beverley Baynham, sy'n cynrychioli ward Llanandras, ei hethol yn gadeirydd yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol y cyngor ddydd Iau, 18 Mai.  Bydd hi'n olynu'r Cynghorydd Gareth Ratcliffe, aelod lleol dros Y Gelli Gandryll.

Bu'r Cynghorydd Baynham, a etholwyd yn gynghorydd sir ward Llanandras yn 2017, yn Gadeirydd Cyngor Sir Powys o 2019/2020.

Etholwyd y Cynghorydd Jonathan Wilkinson fel Is-gadeirydd etholedig y cyngor yn yr un cyfarfod, mae'r Cynghorydd Wilkinson yn aelod lleol dros Llangynyw a Meifod, ac etholwyd y Cynghorydd William Powell, aelod lleol Talgarth, yn Is-gadeirydd Cynorthwyol.