Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Adolygiad gwasanaeth gaeaf ffyrdd Powys

Image of a snow plough

19 Mai 2023

Image of a snow plough
Mae ymarfer ymgysylltu â'r cyhoedd i gam nesaf adolygiad gwasanaeth gaeaf ffyrdd Powys bellach wedi dod i ben.

Gofynnodd yr arolwg chwe wythnos i bobl Powys, sefydliadau partner, aelodau lleol a chynghorau tref a chymuned leisio eu barn yn y broses adolygu o sut mae ffyrdd Powys yn cael eu categoreiddio a'u gwasanaethu yn ystod misoedd y gaeaf. 

"Hoffem ddiolch i'r holl gyfranogwyr sydd wedi cymryd yr amser i gyfrannu at yr ymarfer ymgysylltu." Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet Powys Wyrddach.

"Bydd yr adborth a gesglir yn sicrhau, lle bynnag y bo'n bosibl, y gallwn gwrdd â disgwyliadau'r cymunedau, blaenoriaethu ffyrdd yn gywir a chymhwyso'r categoreiddio ffyrdd terfynol yn deg ar draws y sir gyfan. Byddwn nawr yn gallu cynhyrchu llwybrau gwasanaeth gaeaf teg ar gyfer y sir gyfan yn gywir, a fydd yn cael eu trosglwyddo'n ôl i'r cabinet i'w cymeradwyo'n derfynol.

"Nid yw adolygiad gwasanaeth gaeaf ffyrdd Powys yn ymarfer arbed arian, er ei bod yn bwysig cofio bod yn rhaid i bob maes gwasanaeth yn y cyngor wneud arbedion cyllidebol a bod yn ddoeth gyda gwariant. Prif bwrpas yr adroddiad hwn yw sicrhau bod gennym lwybrau gwasanaeth gaeaf wedi'u creu gan ddefnyddio dull agored, cyson a theg a fydd yn darparu gwasanaeth teg i'r sir gyfan.

"Rydym yn teimlo ei bod hefyd yn bwysig nodi, mewn ymateb i adroddiadau diweddar, y gall costau gwirioneddol gwasanaethu ein rhwydwaith ffyrdd 5,500km yn ystod misoedd y gaeaf amrywio'n fawr o flwyddyn i flwyddyn yn dibynnu ar y tywydd, beth bynnag y bo'r gyllideb.

"Er enghraifft, yn ystod gaeaf eithafol 2017/18 gwelsom eira sylweddol yn cwympo am gyfnod hir ar draws y sir gyfan. O ganlyniad, roedd gennym wariant eithriadol o uchel ar gyfer y costau tanwydd ychwanegol ar gyfer graeanu, staff gweithredol a chontractwyr ychwanegol yn gweithio llawer iawn o oriau ychwanegol, ynghyd â'r gost o daenu 16,666 tunnell o halen.

"Ar y llaw arall, yn 2021/22, roedd misoedd y gaeaf yn llai garw gydag amodau tywydd mwy hylaw a chwymp eira yn fach iawn. Yn amlwg, o ganlyniad, roedd y costau ar gyfer tanwydd, y gweithlu a halen (7,999 tunnell yn unig roedd angen i ni eu daenu, llai na hanner yr hyn oedd ei angen yn 2017/18).

"O ran gwasanaethu ein ffyrdd yn ystod y gaeaf, bydd y costau gwariant gwirioneddol bob amser yn ddibynnol ar amodau'r tywydd."