Toglo gwelededd dewislen symudol

Lansio hyb ar-lein newydd hawdd ei ddefnyddio ar gyfer busnesau bwyd

Asiantaeth Safonau Bwyd - Sgor y gallwch fod yn falch ohoni.

22 Mai 2023

Asiantaeth Safonau Bwyd - Sgor y gallwch fod yn falch ohoni.
Gall busnesau bwyd Powys bellach ddod o hyd i ganllawiau a chyngor gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) mewn un hyb sy'n hawdd mynd ato ar food.gov.uk sy'n cynnwys canllawiau i fusnesau.

Mae'r hyb newydd yn cynnwys yr holl ganllawiau ar sut i ddechrau busnes bwyd, sut i gael sgôr hylendid bwyd dda a sut i reoli alergenau i gadw cwsmeriaid yn ddiogel.

Gall busnesau hefyd ddarllen astudiaethau achos newydd ar flog yr ASB, sy'n cynnwys straeon go iawn am sut mae gweithio gyda'ch awdurdod lleol a'r ASB yn gallu eich helpu i ddechrau a datblygu eich busnes yn ddiogel ac yn llwyddiannus. 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Fwy Diogel:  "Rwy'n falch bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn ei gwneud hi'n haws i fusnesau i wneud yn siwr eu bod yn cydymffurfio ac yn ddiogel.  Bydd un hyb ar y we yn helpu busnesau i gael y cyngor a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i fod yn llwyddiannus tra'n cadw eu cwsmeriaid a staff yn ddiogel."

Dywedodd Katie Pettifer, Cyfarwyddwr Strategaeth a Chydymffurfiaeth Rheoleiddio yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd: "Ar adeg pan fo busnesau bwyd newydd yn wynebu pwysau costau a heriau eraill, mae'r ASB ac awdurdodau lleol am ei gwneud yn haws i fusnesau wneud y peth iawn. Mae ein hyb ar-lein newydd wedi casglu'r cyngor a'r canllawiau sydd eu hangen ar unrhyw fusnes bwyd newydd i gael hwyl ar redeg busnes diogel sy'n cydymffurfio."

Bydd yr ASB hefyd yn cyhoeddi astudiaethau achos gan Ymarferwyr Iechyd yr Amgylchedd ledled Cymru a Lloegr, gan rannu mwy am eu gwaith a'r hyn y maent yn chwilio amdano wrth gynnal arolygiadau mewn busnesau.

I gael mwy o wybodaeth am sut i gadw'ch busnes ar y trywydd iawn a diogelu defnyddwyr ar yr un pryd, ewch i'n hyb canllawiau i fusnesau. Fel arall, ewch i'n canllaw hwylus ar gyfer y sawl sy'n dechrau busnes bwyd newydd.