Rhybuddio preswylwyr ynghylch masnachwyr sy'n cynnig gosod cynnyrch ynni cartref
6 Mehefin 2023
Mae nifer o gwmnïau'n gweithio ledled y sir i osod mesurau i wneud cartrefi'n fwy effeithlon o safbwynt ynni am gostau isel neu ddim cost o gwbl trwy argaeledd cyllid neu grantiau. Yn aml bydd y cwmnïau hyn yn anfon llythyr neu'n ffonio cartrefi a byddant hefyd yn ymweld â chartrefi heb unrhyw rybudd.
Nawr mae Tîm Safonau Masnach Cyngor Sir Powys yn annog trigolion i ofyn cwestiynau, gwirio eu bod yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol cyn cytuno i'r masnachwyr gyflawni'r gwaith, ac i beidio byth â llofnodi cytundeb heb ei ddarllen.
Yn ôl y Cyng. Richard Church, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys fwy diogel: "Gall gwelliannau effeithlonrwydd ynni ar eich cartrefi leihau'r biliau gwresogi a helpu lleihau allyriadau carbon, sydd yn beth da i berchnogion cartrefi a'r amgylchedd.
"Er hynny, bu nifer fawr o gynlluniau ynni ar gael i berchnogion cartrefi trwy farchnad gymhleth iawn, ynghyd â nifer o gwmnïau ledled y DU sy'n darparu ac yn gosod ystod o fesurau ym maes effeithlonrwydd ynni.
"Er bod cynlluniau a chwmnïau dibynadwy ar gael sy'n gallu gwneud cartrefi'n fwy effeithlon o safbwynt ynni, yn anffodus mae rhai masnachwyr twyllodrus sy'n manteisio ar y farchnad hon ac sy'n targedu deiliaid cartrefi.
"Mae'r arferion o gamarwain deiliad y cartref i gytuno i dalu am y gwaith a safon isel y gwaith sy'n dod yn sgil hyn, yn adnabyddus iawn, a gall yr olaf olygu bod gofyn i'r unigolyn dalu sylw orfod talu'r bil i atgyweirio unrhyw ddifrod a achoswyd.
"Rwyf yn annog unrhyw ddeiliad eiddo i wirio dilysrwydd y cynllun, y cynnyrch, y masnachwr a'r taliad yn y lle cyntaf, cyn cytuno ar y contract, boed yn rhad ac am ddim ai peidio."
Mae gan y cyngor gynllun i helpu mynd i'r afael â thlodi tanwydd ym Mhowys. Bydd y cynllun ECO4 Flex yn galluogi gwelliannau o ran ynni cartref ac mae'n cael ei gyflenwi ar ran y cyngor gan Cymru Gynnes, cwmni buddiant cymunedol sy'n arbenigo mewn cyflenwi rhaglenni gyda'r nod o fynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru.
Bydd Cymru Gynnes yn cynnig cynllun a reolir yn llawn, ymholiadau yn y maes, yn cynnal asesiadau o ran cymhwysedd cleientiaid ac yn gweithio'n uniongyrchol gyda darparwyr ynni ac asiantau gyda rhwymedigaeth i gyflenwi mesurau dan y cynllun.
I ddysgu rhagor ynghylch Cynllun Arbed Ynni Powys Cymru Gynnes, ewch i www.warmwales.org.uk/powys-energy-saving-scheme-2/ neu ffoniwch 01656 747 622.
I atal derbyn deunyddiau hysbysebu sy'n dod i'ch cyfeiriad personol, gallwch gofrestru gyda'r Gwasanaeth Dewis Post (MPS) yma www.mpsonline.org.uk/
Y ffordd orau i leihau nifer y galwadau niwsans yw trwy gofrestru am ddim gyda'r Gwasanaeth Dewis Ffôn (TPS) yma www.tpsonline.org.uk/
Am ragor o gyngor i ddefnyddwyr, gan gynnwys os ydych chi wedi dioddef oherwydd masnachwr twyllodrus, cysylltwch â llinell gymorth y Cyngor ar Bopeth ar gyfer defnyddwyr, am ddim ar 0808 223 1133 neu i siarad â chynghorwr Cymraeg, ffoniwch 0808 223 1144.