Cynigion i ehangu ysgol newydd yn sicrhau'r un cyfle i bob disgybl
07 Mehefin 2023
Mae Cyngor Sir Powys yn bwriadu adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Calon y Dderwen yn Y Drenewydd a agorodd ym mis Medi 2021 yn sgil uno Ysgol Babanod Ladywell Green ac Ysgol Iau Hafren.
Mae'r adeilad newydd yn cael ei ddylunio fel ysgol fro i sicrhau y gall disgyblion elwa o amgylchfyd dysgu fydd yn eu galluogi i ffynnu a gwireddu eu llawn potensial. Mae'n cael ei ddatblygu gerllaw Campws Iechyd a Llesiant Gogledd Powys, fydd yn galluogi cysylltiadau agos rhwng y gwasanaethau iechyd a llesiant a'r ysgol.
Fodd bynnag, erbyn hyn mae'r cyngor yn ystyried cynyddu maint yr adeilad er mwyn gallu derbyn mwy o ddisgyblion, fydd yn elwa o'r cyfleusterau newydd er mwyn cefnogi'n well y gallu i gyflwyno'r Cwricwlwm newydd i Gymru.
Gall y newid olygu y bydd y cyngor yn datblygu ysgol fro er mwyn gwasanaethu cymuned ehangach, a gall cynnwys pob disgybl sy'n mynd i ysgolion Maesyrhandir a Threowen ar hyn o bryd, yn ogystal ag Ysgol Calon y Dderwen.
Dywed y Cyng. Pete Roberts, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Rydym yn awyddus i ddarparu amgylchfyd dysgu lle mae'r disgyblion yn gallu ffynnu a gwireddu eu potensial llawn a lle gall y staff dysgu mewn cyfleusterau sy'n ategu cyflwyno'r Cwricwlwm newydd i Gymru.
"Rwyf yn awyddus i sicrhau fod cymaint o ddisgyblion â phosibl yn cael elwa o'r cyfleusterau newydd gwych fydd ar gael yn yr ysgol newydd yn Y Drenewydd. Er mwyn gwireddu hyn, rydym yn ystyried cynyddu maint yr adeilad newydd er mwyn gallu derbyn yr holl ddisgyblion sy'n mynd i ysgolion cyfrwng Saesneg ar ochr ddeheuol yr afon Hafren ar hyn o bryd.
"Er hynny, megis dechrau ystyried y syniadau hyn yr ydym ar hyn o bryd. I'n cynorthwyo i ddeall effaith unrhyw newidiadau ar yr ysgolion hyn, rydym wedi cychwyn trafodaethau gyda chymunedau'r tair ysgol dan sylw er mwyn deall meysydd pryder neu faterion lleol y mae gofyn inni fod yn ymwybodol ohonynt.
"Byddwn yn cwrdd gyda staff a llywodraethwyr y tair ysgol wrth inni ystyried y cynllun hwn, a byddwn hefyd yn rhoi cyfle i rieni a'r gymuned ehangach gael dweud eu dweud.
"Ein nod yw sicrhau y gall disgyblion Y Drenewydd barhau i dderbyn addysg o'r safon uchaf am lawer o flynyddoedd i ddod, a sicrhau y gall cymaint o ddisgyblion â phosibl elwa o'r buddsoddiad ariannol sylweddol sydd ar y gweill ar gyfer y dref gan sicrhau bod disgyblion ar ochr ddeheuol yr afon yn cael yr un cyfleoedd, lle bynnag maen nhw'n byw.
"Edrychaf ymlaen at weithio gyda chymunedau'r tair ysgol er mwyn adnabod ffordd ymlaen i wireddu hyn."