Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cyngor yn lansio taflen gyflwyno'r Gymraeg yn Eisteddfod yr Urdd

Image of the launch of the of the Welsh language information leaflet that has been produced by Powys County Council were Leader Cllr James Gibson-Watt and Deputy Leader Matthew Dorrance

09 Mehefin 2023

Image of the launch of the of the Welsh language information leaflet that has been produced by Powys County Council were Leader Cllr James Gibson-Watt and Deputy Leader Matthew Dorrance
Mae'r cyngor sir wedi cyhoeddi ei fod wedi lansio taflen gyflwyno'r Gymraeg sydd wedi'i hanelu at groesawu pobl sy'n symud i Bowys o du allan i Gymru yn un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop.

Cafodd y daflen ei lansio ar stondin Maldwyn yn ystod Eisteddfod yr Urdd wythnos ddiwethaf a gynhaliwyd yn Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin.

Mae'r daflen yn rhoi cyflwyniad i'r Gymraeg gyda rhai ymadroddion syml a chanllaw i ddeall enwau lleoedd lleol.  Mae hefyd yn tynnu sylw at fanteision niferus addysg Gymraeg.

Cynhyrchwyd y daflen fel rhan o Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y cyngor ac ar y cyd â Phanel Llywodraethu'r Gymraeg y cyngor.  Bydd y daflen yn cael ei rhannu i'w dosbarthu gan werthwyr tai a chymdeithasau tai ym Mhowys.

Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys: "Roedd yn anrhydedd mynychu Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri yr wythnos ddiwethaf ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu'r ŵyl atom y flwyddyn nesaf ym Meifod.

"Ro'n i'n falch iawn o fod yn rhan o lansiad y daflen bwysig hon sy'n rhoi cyfle i ddeall pwysigrwydd y Gymraeg ac yn annog pobl i ystyried dysgu Cymraeg - naill ai ar gyfer eu hunain neu ar gyfer eu plant." 

Dywedodd y Cynghorydd Elwyn Vaughan, Cadeirydd Panel Llywodraethu'r Gymraeg: "Mae'r iaith Gymraeg yn perthyn i ni gyd ac mae'n bwysig bod y rhai sy'n symud i Bowys yn cael eu croesawu gyda chyflwyniad i'r Gymraeg.

"Mae dealltwriaeth o'r iaith yn helpu pobl i ymgartrefu yn eu cymunedau ac yn annog ymdeimlad o gysylltiad â'n henwau lleoedd a threftadaeth.  Mae hefyd yn bwysig bod teuluoedd sy'n symud i'r ardal yn clywed bod addysg Gymraeg yn agored i bawb."

I gael gwybod mwy am addysg Cyfrwng Cymraeg ym Mhowys, ewch i Taith at Ddwy Iaith.