Cyngor yn lansio taflen gyflwyno'r Gymraeg yn Eisteddfod yr Urdd
09 Mehefin 2023
Cafodd y daflen ei lansio ar stondin Maldwyn yn ystod Eisteddfod yr Urdd wythnos ddiwethaf a gynhaliwyd yn Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin.
Mae'r daflen yn rhoi cyflwyniad i'r Gymraeg gyda rhai ymadroddion syml a chanllaw i ddeall enwau lleoedd lleol. Mae hefyd yn tynnu sylw at fanteision niferus addysg Gymraeg.
Cynhyrchwyd y daflen fel rhan o Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y cyngor ac ar y cyd â Phanel Llywodraethu'r Gymraeg y cyngor. Bydd y daflen yn cael ei rhannu i'w dosbarthu gan werthwyr tai a chymdeithasau tai ym Mhowys.
Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys: "Roedd yn anrhydedd mynychu Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri yr wythnos ddiwethaf ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu'r ŵyl atom y flwyddyn nesaf ym Meifod.
"Ro'n i'n falch iawn o fod yn rhan o lansiad y daflen bwysig hon sy'n rhoi cyfle i ddeall pwysigrwydd y Gymraeg ac yn annog pobl i ystyried dysgu Cymraeg - naill ai ar gyfer eu hunain neu ar gyfer eu plant."
Dywedodd y Cynghorydd Elwyn Vaughan, Cadeirydd Panel Llywodraethu'r Gymraeg: "Mae'r iaith Gymraeg yn perthyn i ni gyd ac mae'n bwysig bod y rhai sy'n symud i Bowys yn cael eu croesawu gyda chyflwyniad i'r Gymraeg.
"Mae dealltwriaeth o'r iaith yn helpu pobl i ymgartrefu yn eu cymunedau ac yn annog ymdeimlad o gysylltiad â'n henwau lleoedd a threftadaeth. Mae hefyd yn bwysig bod teuluoedd sy'n symud i'r ardal yn clywed bod addysg Gymraeg yn agored i bawb."
I gael gwybod mwy am addysg Cyfrwng Cymraeg ym Mhowys, ewch i Addysg Cyfrwng Cymraeg.