Polisi Gorfodi Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) 2022
Pennu lefel y gosb ariannol
Yn unol â darpariaethau'r canllawiau statudol, bydd y Cyngor yn ystyried y ffactorau canlynol wrth bennu lefel y gosb ariannol i'w gosod am dorri'r Ddeddf:
- Difrifoldeb y toriad
- Man cychwyn ac ystod
- Ffactorau gwaethygu a lliniaru
- Tegwch a chymesuredd
Er bod gan y Cyngor ddisgresiwn wrth benderfynu ar y lefel briodol o gosb ariannol, o fewn y cyfyngiadau a nodir yn y Ddeddf, rhoddwyd ystyriaeth i'r canllawiau statudol wrth greu'r polisi hwn.