Cyhoeddi Cynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoedd Powys
14 Mehefin
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn ei gwneud yn ofynnol i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ledled Cymru i baratoi Cynllun Llesiant lleol sy'n rhoi manylion cynlluniau i wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol, a diwylliannol ein cymunedau.
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys yn gyfrifol am ddatblygu Cynllun Llesiant lleol ar gyfer yr ardal i helpu trigolion Powys i gyflawni eu nodau llesiant. Er mwyn cyflawni'r uchelgais "Powys Deg, Iach a Chynaliadwy", gosodwyd yr amcanion isod sef nodau craidd y cynllun:
- Bydd pobl ym Mhowys yn byw bywydau hapus, iach, a diogel
- Mae Powys yn sir o fannau a chymunedau cynaliadwy
- Gwasanaeth Cyhoeddus gynyddol effeithiol i bobl Powys
Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys a Chadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys: "Pleser yw cyhoeddi Cynllun Llesiant newydd Powys.
"Diolch i bawb sydd wedi bod yn ymwneud â'r Cynllun ac wedi dweud eu dweud yn ystod yr amrywiol ymarferion ymgysylltu ac ymgynghori dros y ddwy flynedd diwethaf.
"Mae eich cyfraniad wedi sicrhau bod y cynllun newydd yn gallu diwallu anghenion pobl Powys, i wella llesiant ar hyd a lled y sir, ac ar yr un pryd yn ystyried anghenion posibl a dymuniadau cenedlaethau'r dyfodol."
Mae'r Cynllun Llesiant bellach ar gael yn: https://cy.powys.gov.uk/cynaliadwyedd