Toglo gwelededd dewislen symudol

Cabinet i ystyried adroddiad gwrthwynebiad Ysgol y Cribarth

Image of Ysgol y Cribarth

14 Mehefin 2023

Image of Ysgol y Cribarth
Gallai addysg cyfrwng Cymraeg gael ei chyflwyno mewn ysgol gynradd yn Ne Powys yn ddiweddarach y mis hwn os fydd y Cabinet yn caniatáu hynny, yn ôl y cyngor sir.

Mae Cyngor Sir Powys am symud Ysgol y Cribarth yn Abercraf ar hyd y continwwm ieithyddol drwy sefydlu ffrwd cyfrwng Cymraeg ffurfiol yn yr ysgol.

Ysgol cyfrwng Saesneg yw hi ar hyn o bryd sy'n darparu addysg i blant 4 i 11 oed.

Ers mis Medi 2021, mae Ysgol y Cribarth wedi gweithredu dosbarth cyfrwng Cymraeg yn y Cyfnod Sylfaen ar sail beilot fel rhan o gynllun a oedd yn cael ei gefnogi gan y cyngor.

Byddai'r newid arfaethedig yn gweld cyflwyno ffrwd cyfrwng Cymraeg ffurfiol yn Ysgol y Cribarth o fis Medi 2023, gan weithredu ochr yn ochr â ffrwd cyfrwng Saesneg yr ysgol.

Bydd y cynnig yn helpu'r cyngor i gyflenwi un o'i nodau yn ei Strategaeth dros Drawsnewid Addysg, sef gwella'r fynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws y cyfnodau allweddol. Cafodd y strategaeth ei diweddaru ym mis Gorffennaf 2022.

Yn gynharach eleni, rhoddodd y Cabinet ganiatâd am hysbysiad statudol i gael ei gyhoeddi'n ffurfiol gan gynnig y newid, a gafodd ei gyhoeddi ym mis Ebrill. Yn ystod y cyfnod hysbysiad statudol, cafodd un gwrthwynebiad ei dderbyn.

Ddydd Mawrth, 20 Mehefin, bydd Cabinet yn derbyn ac ystyried yr adroddiad gwrthwynebu a byddant yn cael cais yn gofyn iddynt gymeradwyo'r cynnig i wneud addasiad rheoledig i sefydlu ffrwd cyfrwng Cymraeg yn Ysgol y Cribarth o fis Medi 2023.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Bydd sefydlu ffrwd cyfrwng Cymraeg yn Ysgol y Cribarth yn sicrhau y byddai'r holl ddisgyblion yn yr ardal yn cael y cyfle i ddewis y ddarpariaeth hon, a fyddai'n rhoi'r cyfle iddynt ddyfod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg ac felly gyfrannu at ddyhead Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

"Byddai hefyd yn cefnogi nodau a dyheadau'r cyngor yn ôl yr hyn a amlinellwyd yng Nghynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg ar gyfer 2022-23 a'r Strategaeth dros Drawsnewid Addysg ym Mhowys.

I gael rhagor o wybodaeth am addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhowys ewch i Taith at Ddwy Iaith.

Am ragor o wybodaeth am Drawsnewid Addysg ym Mhowys ewch i Trawsnewid Addysg.