Toglo gwelededd dewislen symudol

Grantiau ar gael i greu gwarchodfeydd natur ym Mhowys

Image of some wild flowers

15 Mehefin 2023

Image of some wild flowers
Mae grwpiau cymunedol, sefydliadau gwirfoddol, elusennau, ysgolion a sefydliadau eraill yn cael eu gwahodd i wneud cais am arian grant i greu llefydd ar gyfer natur yn eu hardal leol.

Unwaith yn rhagor dyfarnwyd arian Llywodraeth Cymru i Bartneriaeth Natur Powys ar gyfer cynllun Natur (LlLlN). Nod y cynllun yw creu Natur ar Garreg Eich Drws, ble mae pobl yn byw, gweithio a chael mynediad at wasanaethau cyhoeddus.

Gyda help ein cymunedau, mae Partneriaeth Natur Powys yn anelu at adfer a gwella natur ledled y sir. Mae cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn canolbwyntio ar ymgysylltu â chymunedau'n i greu a gwella mannau ar gyfer natur yn rhagweithiol a chanolbwyntio ar ddod â natur i ardaloedd trefol sydd wedi eu hamddifadu o natur yn flaenorol. Mae treulio amser ymysg natur yn fanteisiol i'n llesiant meddyliol a chorfforol, felly yn ogystal â darparu amgylchedd sy'n fwy cynaliadwy a chyfeillgar, bydd y cymunedau lleol yn elwa hefyd.

"Ledled Cymru a gweddill y DU rydym ni'n gweld dirywiad mewn rhywogaethau a gostyngiad mewn ardaloedd sy'n gyfoethog o ran natur." Esbonia'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.

"Mae Cynllun Grantiau Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur ar gael i gymunedau ei ddefnyddio i greu ardaloedd lleol ble mae natur yn ffynnu. Nid yn unig fydd y gwarchodfeydd hyn helpu i wella ein hamgylchedd lleol ond bydd hefyd yn darparu ardaloedd ar gyfer ein preswylwyr i fwynhau manteision treulio amser ymhlith natur.

"Does dim llawer o amser i wneud cais am arian felly os ydych chi eisoes yn edrych ar y lle perffaith hwnnw ar gyfer natur, ymgeisiwch nawr,"

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am grant yw 5pm, 21 Gorffennaf 2023. Gellir dod o hyd i ffurflen gais ar-lein: Cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur