Cymunedau'n cael eu 'hysbrydoli' i gyflawni cynlluniau gwyrdd
23 Mehefin 2023
Roedd mwy na 60 o gynrychiolwyr yn bresennol mewn Digwyddiad Natur a'r Amgylchedd Cynghorau Tref a Chymuned Powys a gynhaliwyd yn y Pafiliwn yn Llandrindod ar 14 Mehefin.
Cafodd y gynhadledd ei threfnu ar y cyd gan Gyngor Sir Powys a Chyngor Tref Llandrindod, ac fe gafodd ei chynnal i nodi'r Wythnos Fawr Werdd (10-18 Mehefin). Roedd yn cynnwys siaradwyr o amryw o sefydliadau, sesiynau holi ac ateb gyda phanelwyr, gweithdai, stondinau gwybodaeth a chyfleoedd i rwydweithio.
"Roedd y digwyddiad yn ysbrydoledig ac mae llawer o bobl a oedd yn bresennol wedi cysylltu â mi i ddweud eu bod nhw'n credu hynny hefyd," dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Wyrddach. "Mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn rhannu syniadau am leihau ein hallyriadau carbon a datblygu amgylcheddau bywiog ac iach sy'n dda i bobl a natur ill dau er mwyn i'n cartref fod yn y sir 'wyrddaf' yng Nghymru.
"Braf oedd cael cwrdd â chymaint o bobl eraill sy'n wedi ymrwymo â'r un nod o fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur mor gyflym ac effeithiol ag sy'n bosibl, a gadawodd pawb gyda digon i feddwl amdano ac ymdeimlad newydd o egni."
Y cyflwynydd teledu a radio Chris Jones oedd yn arwain y gynhadledd ac ymhlith y sefydliadau cefnogi a oedd yn bresennol roedd: Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu Cyngor Sir Powys a'i Wasanaeth Bioamrywiaeth a Chefn Gwlad sy'n rhan o Bartneriaeth Natur Powys, Asiantaeth Ynni Hafren Gwy, Un Llais Cymru, Canolfan y Dechnoleg Amgen, Black Mountains College, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cymorth Cynllunio Cymru, Coed Cadw, Cyngor Tref Aberhonddu, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Faesyfed, On The Verge, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru, Cadw'ch Gymru'n Daclus, Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymgyrch "Iddyn Nhw" Llywodraeth Cymru, Adran 6 Bioamrywiaeth a Gwasanaeth Ynni, Tripto a Gweithredu Powys ar yr Argyfwng Hinsawdd (PACE).
Bydd cynghorau tref a chymuned a oedd yn gallu anfon cynrychiolydd i'r digwyddiad a'r rheini nad oeddent, yn derbyn pecyn gwybodaeth sy'n cynnwys y cyflwyniadau a roddwyd ar y dydd a dolenni i fideos ac areithiau.
Dylai unrhyw gyngor neu grŵp cymunedol ym Mhowys sydd am gael help gyda'r gwaith i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur e-bostio:climate@powys.gov.uk
LLUN: Cynhaliwyd Digwyddiad Natur a'r Amgylchedd Cynghorau Tref a Chymuned Powys yn y Pafiliwn yn Llandrindod.