Toglo gwelededd dewislen symudol

Sicrhau arian ar gyfer gwella mynediad at deithio llesol i'r ysgol yn Aberhonddu

Image of feet walking along a path

23 Mehefin 2023

Image of feet walking along a path
Mae Cyngor Sir Powys wedi sicrhau arian oddi wrth Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Teithio Llesol a Llwybrau Diogel Mewn Cymunedau ger Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru yn Aberhonddu.

Caiff y llwybrau troed presennol eu dynodi ar Fapiau Rhwydwaith Teithio Llesol fel rhai gwael neu anaddas ar gyfer teithio ar droed, yn enwedig i'r rheini sy'n teithio'n ôl a blaen i'r ysgol.  Cafodd y prosiect ei gynllunio i fynd i'r afael â'r materion hyn a gwella mynedid i'r ysgol a hwn fydd y cam cyntaf i ddatblygu rhwydwaith teithio llesol lleol ehangach ar hyd a lled Aberhonddu.

Bydd y cynllun yn gwella darpariaeth teithio llesol i gerddwyr drwy uwchraddio'r llwybrau cyfredol ar Pendre Road a Chlos Pendre.

Bydd y prosiect yn uwchraddio a lledaenu'r llwybr troed cyfredol ar Glos Pendre tuag at yr ysgol a bydd yn gwella'r ddarpariaeth i gerddwyr ger cyffordd Pendre/Clos Pendre er mwyn galluogi cerddwyr i groesi'n ddiogel o Lôn Bupren.

Bydd gwelliannau yn cael eu gwneud hefyd i'r llwybr troed i gerddwyr ar draws mynedfa maes parcio'r gadeirlan.

"Bydd y Prosiect Teithio Llesol a Llwybrau Diogel Mewn Cymunedau hwn yn gwneud gymaint o wahaniaeth cadarnhaol i deuluoedd â phlant yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Priordy." Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.

"Nid yn unig fydd y gwelliannau i'r isadeiledd a'r mynediad ei gwneud hi'n fwy diogel i gerdded i'r ysgol, ond bydd hefyd yn annog teuluoedd i adael y car gartref - gan wella eu hiechyd a'u llesiant, lleihau allyriadau carbon a helpu i frwydro yn erbyn newid hinsawdd.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud hi'n glir fod yn rhaid i deithio llesol fod yn ddewis naturiol ar gyfer teithiau byr bob dydd, neu fel rhan o daith hirach gan gyfuno dulliau cynaliadwy eraill, a'r buddsoddiad parhaus i lwybrau teithio llesol ymarferol ym Mhowys, fel y prosiect hwn yn Aberhonddu, ein helpu ni i wireddu'r weledigaeth hon."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu