Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweinidog Llywodraeth Cymru'n ymweld â lleoliad cyfrwng Cymraeg y blynyddoedd cynnar

Picture of Jeremy Miles MS, Minister for Education and the Welsh Language with representatives from Powys County Council, Ysgol Gymraeg Dyffryn y Glowyr and early years setting staff as part of his visit to the purpose-built early years setting f

26 Mehefin 2023

Picture of Jeremy Miles MS, Minister for Education and the Welsh Language with representatives from Powys County Council, Ysgol Gymraeg Dyffryn y Glowyr and early years setting staff as part of his visit to the purpose-built early years setting f
Mae plant a staff lleoliad cyfrwng Cymraeg y blynyddoedd cynnar wedi cael ymweliad gan Weinidog Llywodraeth Cymru yn eu cyfleuster pwrpasol £2m.

Ymwelodd Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg â'r cyfleuster ar safle Ysgol Gymraeg Dyffryn y Glowyr, sef ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yng Nghwmtwrch Isaf. Digwyddodd yr ymweliad ddydd Gwener, 16 Mehefin.

Cafodd y cyfleuster ei adeiladu gan Gyngor Sir Powys a'i agor ym mis Medi 2021 ac mae yno le i 120 ar gyfer y cynnig Gofal Plant, Dechrau'n Deg a lleoedd y blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r adeilad yn cynnwys pedair ystafell lleoliad, ystafell gyfarfod, ystafell hylendid, cyfleusterau i'r staff ac ardaloedd chwarae awyr agored.

Agorodd y lleoliad presennol ar gyfer y blynyddoedd cynnar, sef Dechrau Disglair, a leolir yn Ysgol Gymraeg Dyffryn y Glowyr, yn 2012 fel ysgol gyfrwng Cymraeg lwyddiannus. Fodd bynnag, daeth yr ysgol i fod yn llawn ac mae'r galw sylweddol am ddarpariaeth gyfrwng Cymraeg yn yr ardal yn parhau.

Er mwyn diwallu'r angen cynyddol am leoedd cyfrwng Cymraeg y blynyddoedd cynnar, llwyddodd y cyngor i gael arian Llywodraeth Cymru i adeiladu cyfleuster newydd fel bloc ar wahân ar safle'r ysgol.

Bydd y cyfleuster yn helpu'r cyngor i gyflawni nodau a dyheadau Cynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg ar gyfer 2022-23 a'i Strategaeth Trawsnewid Addysg ym Mhowys.

Dywedodd y Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: "Mae'n wych gweld drosof fi fy hun y gwahaniaeth mae'r cyfleuster newydd ffantastig hwn yn ei wneud i ddysgwyr ifanc a staff, ar ôl derbyn ychydig dros £2 filiwn o arian oddi wrth Lywodraeth Cymru.

"Rwy'n ymroddedig i sicrhau fod yr ieuengaf yn ein cymunedau yn derbyn y sail a'r gefnogaeth i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg o oedran cynnar. Bydd adeiladau fel yr un yma'n galluogi'r plant o'r ardal hon i bontio'n llyfn o'r blynyddoedd cynnar i addysg gynradd a'n helpu ni i ddiwallu ein huchelgais o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050."

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Roedd yn bleser bod yn rhan o ymweliad y Gweinidog â'r cyfleuster blynyddoedd cynnar hwn yn Ysgol Gymraeg Dyffryn y Glowyr.

"Un o'n nodau yn ein Strategaeth Trawsnewid Addysg ym Mhowys yw gwella mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg ar draws yr holl gamau allweddol. Bydd y datblygiad hwn yn ein helpu ni i gyflawni'r nod hwn."

Dywedodd Emma Rofe, Pennaeth Ysgol Gymraeg Dyffryn y Glowyr,: "Daeth yr ysgol ddeniadol a phwrpasol hon i fodolaeth drwy waith caled ac ymroddiad y Corff Llywodraethu a'r Staff wrth hyrwyddo'r Gymraeg a diwallu anghenion y gymuned. Mae ein llwyddiant cynyddol o ganlyniad i'n hangerdd dros ein hiaith a'n cydweithio trylwyr a brwdfrydig.

"Rydym ni'n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ariannu'r adeilad newydd hwn ac i Gyngor Sir Powys am eu gwaith caled wrth reoli ac arwain y prosiect."

I ganfod rhagor am addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhowys ewch i Taith at Ddwy Iaith.

Am ragor o wybodaeth am Drawsnewid Addysg ym Mhowys, ewch i Trawsnewid Addysg.