Toglo gwelededd dewislen symudol

Paratoi ar gyfer cyflwyno 20mya ym Mhowys

Image promoting the new 20mph speed limit

28 Mehefin 2023

Image promoting the new 20mph speed limit
O 17 Medi 2023, bydd y terfyn cyflymder diofyn o 20mya yn dod i rym ar ffyrdd y mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn chwarae ynddynt ym Mhowys, a ledled Cymru. Bydd rhai ffyrdd yn aros ar 30mya ac mae Cyngor Sir Powys yn mynd i ymgynghori â chymunedau ar ba rai fydd yn cadw eu terfyn cyflymder presennol.

Mae Llywodraeth Cymru yn newid y terfyn cyflymder diofyn i wneud strydoedd yn fwy diogel drwy leihau'r tebygolrwydd o wrthdrawiadau - a marwolaethau neu anafiadau yn sgil hynny. Bydd y newidiadau'n digwydd yn bennaf ar ffyrdd lle nad yw goleuadau stryd wedi'u gosod mwy na 200 llath oddi wrth ei gilydd, fel arfer mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig y mae pobl yn eu defnyddio'n aml.

Nid yw'r ddeddfwriaeth newydd yn golygu y bydd pob ffordd yn newid i 20mya, bydd rhai'n aros ar 30mya ac yn cael eu hadnabod fel eithriadau. Mae pob cyngor yng Nghymru yn ystyried pa strydoedd yn eu hardal ddylai aros ar gyflymder o 30mya. Gallwch weld pa ffyrdd yr effeithir arnynt yn https://mapdata.llyw.cymru/maps/roads-affected-by-changes-to-the-speed-limit-on-re/view#/

Amcangyfrifodd astudiaeth iechyd y cyhoedd yng Nghymru y gallai'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya arwain at:

  • 40% yn llai o wrthdrawiadau
  • achub 6 i 10 o fywydau bob blwyddyn
  • ac osgoi 1200 i 2000 o bobl rhag cael eu hanafu bob blwyddyn.

Mae tystiolaeth yn dangos bod pobl yn teimlo'n fwy cyfforddus i gerdded a beicio pan fydd cyflymder cerbydau'n arafach, a'i bod yn fwy diogel i blant gerdded i'r ysgol; ac mae pobl hŷn, pobl anabl neu bobl ag anghenion ychwanegol hefyd yn gallu teithio'n fwy annibynnol.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth, Lee Waters: "Mae'r dystiolaeth o bob rhan o'r byd yn glir iawn - mae gostwng terfynau cyflymder yn lleihau gwrthdrawiadau ac yn achub bywydau. Mae cyflymderau arafach hefyd yn helpu i greu cymuned fwy diogel a chroesawgar, gan roi'r hyder i bobl gerdded a beicio mwy, gan wella eu hiechyd a'u lles tra'n diogelu'r amgylchedd."

"Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd cam dewr trwy roi'r cyfyngiad cyflymder diofyn newydd o 20mya ar waith ar draws y wlad," esbonia'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet dros Bowys Wyrddach, "ond bydd y manteision y gallwn ddisgwyl eu gweld, o ran gyrru arafach, gwell diogelwch a lefelau uwch o seiclo a cherdded yn drech nag unrhyw gyndynrwydd i newid.

"Bydd y cyfyngiad cyflymder newydd o 20mya hefyd yn ategu ein rhwydwaith cynyddol o lwybrau teithiol llesol o amgylch y sir, lle rydym yn annog pobl i gerdded neu seiclo os yw eu siwrnai'n fyr, yn hytrach na gyrru car. Rydym yn gobeithio yn anad dim y bydd rhagor o deuluoedd Powys yn gallu dewis yn hyderus i gerdded a seiclo i'r ysgol ac yn ôl, gan wybod y bydd y ffyrdd yn fwy diogel."

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am 20mya ar wefan Llywodraeth Cymru, neu i weld sut mae hyn yn effeithio ar eich strydoedd lleol yn DataMapCymru:https://mapdata.llyw.cymru/maps/roads-affected-by-changes-to-the-speed-limit-on-re/view#/

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu