Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

RHYBUDD SGAM: Rydym wedi cael gwybod am gyfres o negeseuon testun twyllodrus sy'n cael eu hanfon at drigolion Powys.

Paratoi ar gyfer cyflwyno 20mya ym Mhowys

Image promoting the new 20mph speed limit

28 Mehefin 2023

Image promoting the new 20mph speed limit
O 17 Medi 2023, bydd y terfyn cyflymder diofyn o 20mya yn dod i rym ar ffyrdd y mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn chwarae ynddynt ym Mhowys, a ledled Cymru. Bydd rhai ffyrdd yn aros ar 30mya ac mae Cyngor Sir Powys yn mynd i ymgynghori â chymunedau ar ba rai fydd yn cadw eu terfyn cyflymder presennol.

Mae Llywodraeth Cymru yn newid y terfyn cyflymder diofyn i wneud strydoedd yn fwy diogel drwy leihau'r tebygolrwydd o wrthdrawiadau - a marwolaethau neu anafiadau yn sgil hynny. Bydd y newidiadau'n digwydd yn bennaf ar ffyrdd lle nad yw goleuadau stryd wedi'u gosod mwy na 200 llath oddi wrth ei gilydd, fel arfer mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig y mae pobl yn eu defnyddio'n aml.

Nid yw'r ddeddfwriaeth newydd yn golygu y bydd pob ffordd yn newid i 20mya, bydd rhai'n aros ar 30mya ac yn cael eu hadnabod fel eithriadau. Mae pob cyngor yng Nghymru yn ystyried pa strydoedd yn eu hardal ddylai aros ar gyflymder o 30mya. Gallwch weld pa ffyrdd yr effeithir arnynt yn https://mapdata.llyw.cymru/maps/roads-affected-by-changes-to-the-speed-limit-on-restricted-roads/

Amcangyfrifodd astudiaeth iechyd y cyhoedd yng Nghymru y gallai'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya arwain at:

  • 40% yn llai o wrthdrawiadau
  • achub 6 i 10 o fywydau bob blwyddyn
  • ac osgoi 1200 i 2000 o bobl rhag cael eu hanafu bob blwyddyn.

Mae tystiolaeth yn dangos bod pobl yn teimlo'n fwy cyfforddus i gerdded a beicio pan fydd cyflymder cerbydau'n arafach, a'i bod yn fwy diogel i blant gerdded i'r ysgol; ac mae pobl hŷn, pobl anabl neu bobl ag anghenion ychwanegol hefyd yn gallu teithio'n fwy annibynnol.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth, Lee Waters: "Mae'r dystiolaeth o bob rhan o'r byd yn glir iawn - mae gostwng terfynau cyflymder yn lleihau gwrthdrawiadau ac yn achub bywydau. Mae cyflymderau arafach hefyd yn helpu i greu cymuned fwy diogel a chroesawgar, gan roi'r hyder i bobl gerdded a beicio mwy, gan wella eu hiechyd a'u lles tra'n diogelu'r amgylchedd."

"Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd cam dewr trwy roi'r cyfyngiad cyflymder diofyn newydd o 20mya ar waith ar draws y wlad," esbonia'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet dros Bowys Wyrddach, "ond bydd y manteision y gallwn ddisgwyl eu gweld, o ran gyrru arafach, gwell diogelwch a lefelau uwch o seiclo a cherdded yn drech nag unrhyw gyndynrwydd i newid.

"Bydd y cyfyngiad cyflymder newydd o 20mya hefyd yn ategu ein rhwydwaith cynyddol o lwybrau teithiol llesol o amgylch y sir, lle rydym yn annog pobl i gerdded neu seiclo os yw eu siwrnai'n fyr, yn hytrach na gyrru car. Rydym yn gobeithio yn anad dim y bydd rhagor o deuluoedd Powys yn gallu dewis yn hyderus i gerdded a seiclo i'r ysgol ac yn ôl, gan wybod y bydd y ffyrdd yn fwy diogel."

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am 20mya ar wefan Llywodraeth Cymru, neu i weld sut mae hyn yn effeithio ar eich strydoedd lleol yn DataMapCymru:https://mapdata.llyw.cymru/maps/roads-affected-by-changes-to-the-speed-limit-on-restricted-roads/

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu