Powys yn diolch i weithwyr ieuenctid yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid
28 Mehefin 2023
Mae Cyngor Sir Powys wedi diolch i'w weithwyr ieuenctid yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid, sy'n dathlu effaith ac amrywiaeth gwaith ieuenctid ledled Cymru, gyda'r nod o hyrwyddo dealltwriaeth ehangach o, a chymorth ar gyfer gwaith ieuenctid.
Trwy ymgysylltu â phobl ifanc 11-25 oed, mae gweithwyr ieuenctid y sir wedi bod yn rhoi cymorth gwerthfawr ac yn grymuso pobl ifanc yn ystod y cyfnod heriol sydd ohoni.
Dywed y Cyng. Sandra Davies, Aelod y Cabinet ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol: "Mae ymdrechion diflino ein gweithwyr ieuenctid wedi bod yn hollbwysig o ran cynnig arweiniad, mentora a gwasanaethau hanfodol i bobl ifanc Powys.
"Mae eu hymrwymiad digyffelyb i lesiant a datblygu unigolion ifanc y sir yn haeddu cymeradwyaeth, yn enwedig yng nghanol yr argyfwng costau byw presennol, sy'n anodd a thrallodus.
"Rydym yn hynod ddiolchgar i'r gweithwyr ieuenctid sy'n parhau i roi eu hamser a'u hegni i bobl ifanc Powys. Diolch o galon."