Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn ymweld â gogledd Powys
10 Gorffennaf 2023
Cafodd Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ei thywys o amgylch nifer o brosiectau yn y Drenewydd a'r cyffiniau sydd wedi elwa o gyllid gan Lywodraeth Cymru. Trefnwyd yr ymweliad gan Gyngor Sir Powys.
Roedd Aelodau'r Cabinet a swyddogion o'r cyngor yng nghwmni'r Gweinidog yn ystod ei hymweliad, a gynhaliwyd ddydd Llun, 3 Gorffennaf.
Fel rhan o'r ymweliad, bu'r Gweinidog yn ymweld â Pharc Busnes Aber-miwl lle cafodd daith o amgylch y cyfleuster crynhoi gwastraff newydd a fydd yn sicrhau bod y cyngor yn darparu gwasanaethau ailgylchu cynaliadwy ac effeithlon.
Yna cafodd y Gweinidog ei thywys o amgylch un o'r unedau yn y parc busnes sy'n cael ei defnyddio gan Custom Marine Developments.
Mae'r cwmni, sy'n rhan o'r Grŵp Makefast, yn creu cynhyrchion pwrpasol o'r ansawdd a'r safon peirianneg uchaf ar gyfer y farchnad dendro cychod hwylio moethus iawn. Cefnogwyd datblygiad yr unedau busnes yn rhannol gan gyllid Llywodraeth Cymru sydd nid yn unig wedi helpu i sefydlu cyfleoedd busnes newydd ond hefyd yn cadw'r gwaith hwn yn yr ardal.
Yna aeth y Gweinidog i'r Drenewydd i weld sawl prosiect sydd wedi elwa o gyllid gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys gwelliannau i'r seilwaith teithio llesol, y gwelliannau yng nghanol y dref ar y Stryd Fawr a datblygiad tai Y Lawnt cyn aros y tu allan i ganolfan gymunedol ac ymwelwyr Hafan yr Afon.
Llyfrgell y Drenewydd oedd y stop olaf a thywyswyd y Gweinidog o amgylch y llyfrgell gan y staff a buont yn siarad am y gwasanaethau y maen nhw'u eu darparu i breswylwyr a'r gwelliannau i brofiad y defnyddiwr o ganlyniad i welliannau TGCh a gyflwynwyd yn o ganlyniad i dderbyn cyllid grant.
Lleoliad olaf ymweliad y Gweinidog oedd yr adeilad ysgol newydd ar gyfer Ysgol Cedewain sef prosiect arall a ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru. Bydd yr adeilad newydd yn cael ei adeiladu yn lle adeilad gwael iawn ysgol bresennol Ysgol Cedewain, a bydd yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer dysgwyr bregus iawn, gan gynnwys pwll hydrotherapi, ystafelloedd a gardd synhwyraidd a ffisiotherapi yn ogystal â chaffi cymunedol.
Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys: "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu dangos nifer o brosiectau i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol sydd wedi digwydd yn y Drenewydd a'r cyffiniau o ganlyniad i gyllid gan Lywodraeth Cymru.
"Hoffem ddiolch iddi am gymryd yr amser i ddod i Bowys i weld sut mae'r prosiectau hyn yn gwella'r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau cyhoeddus."
Dywedodd Rebecca Evans AS: "Y mae bob amser yn dda gweld sut mae arian Llywodraeth Cymru yn newid a gwella ein trefi a'n hardaloedd lleol, a'u cyfleusterau. Mae Parc Busnes Abermiwl a Chanolfan Gymunedol Hafan yr Afon yn lefydd gwahanol iawn i'w gilydd, eto mae'r ddau yn enghreifftiau yr un mor gadarnhaol o ble y gall buddsoddiad da helpu ardal i ffynnu.
"Mae gweithio mewn partneriaeth yn annatod ag adfywio a thwf, ac mae datblygiadau diweddar Cyngor Sir Powys yn enghraifft wych o newid gwerthfawr, nawr ac i'r dyfodol."