Llwyddiant aur i Ysgol y Babanod, Mount Street
12 Gorffennaf 2023
Ysgol y Babanod, Mount Street yw'r ysgol gyntaf yng Nghymru i gyflawni Statws Aur Ysgolion Sy'n Cefnogi'r Lluoedd Arfog yng Nghymru.
Derbyniodd yr ysgol ei gwobr mewn cyflwyniad ddydd Gwener, 7 Gorffennaf.
Cafodd menter Ysgolion Sy'n Cefnogi'r Lluoedd Arfog yng Nghymru ei lansio yn 2022 â'r nod o feithrin amgylchedd cefnogol a chynhwysol i blant y Lluoedd Arfog yng Nghymru ledled Cymru.
Mae ysgolion sy'n cyfranogi yn ymgymryd â chyfres o weithgareddau a gweithredoedd sy'n gydnaws â Rhestr Wirio Ysgolion SSCE Cymru, sy'n cynnwys elfennau gorfodol a thasgau ychwanegol, i wneud cynnydd o Efydd i Arian, ac yn y pen draw cyflawni'r statws Aur o fri.
Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: "Rwyf wrth fy modd taw Ysgol y Babanod, Mount Street yw'r ysgol gyntaf yng Nghymru i gyflawni statws Aur.
"Maen nhw'n arwain y ffordd wrth ddarparu croeso cynnes a chyfeillgar i blant y Fyddin gan adeiladu cydberthnasau cryf a hirhoedlog gyda chymuned leol y Lluoedd Arfog. Rwyf am longyfarch pawb yn yr ysgol am eu llwyddiant - sy'n gwbl haeddiannol."
Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Sy'n Dysgu: "Mae dyfod i fod yr ysgol gyntaf yng Nghymru i lwyddo i gyflawni statws aur yn gyflawniad rhagorol a dylai pawb yn Ysgol y Babanod, Mount Street fod yn falch o'r gydnabyddiaeth arbennig hon.
"Wrth gyflawni statws Aur, maen nhw wedi arddangos ymroddiad eithriadol wrth fewnosod arferion gorau i gefnogi Plant Milwyr a gwella ymgysylltiad â chymuned y Lluoedd Arfog."
Am wybodaeth bellach am Ysgolion Sy'n Cefnogi'r Lluoedd Arfog yng Nghymru ewch i SSCE Cymru www.sscecymru.co.uk