Toglo gwelededd dewislen symudol

Talebau prydau ysgol am ddim yn y gwyliau

Image of children eating food

18 Gorffennaf 2023

Image of children eating food
Mae'r cyngor sir wedi cyhoeddi fod y Cabinet wedi cymeradwyo cynlluniau i gefnogi teuluoedd Powys gyda chynllun talebau Prydau Ysgol am Ddim yn ystod gwyliau'r haf eleni.

Ar ddiwedd Mehefin, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei fod yn rhoi'r gorau i'w gymorth i ddarpariaeth prydau ysgol am ddim ar gyfer plant yn ystod y gwyliau a dros gyfnodau hanner tymor, gan Lywodraeth Cymru. Cyflwynwyd y cynllun yn ystod pandemig Covid er mwyn cefnogi 'llwgu yn ystod y gwyliau' ac i helpu teuluoedd yn ystod yr argyfwng costau byw.

Bellach bydd Cyngor Sir Powys yn darparu talebau am brydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau ar gyfer teuluoedd cymwys yn ystod gwyliau haf 2023 ar ôl i'r Cabinet gymeradwyo heddiw (dydd Mawrth 18 Gorffennaf) cyllido'r talebau, fydd yn golygu cyfanswm cost o ryw £280,000.

Bydd y cyllid untro hwn yn galluogi'r ddarpariaeth o dalebau prydau ysgol yn ystod y gwyliau ar gyfer gwyliau haf 2023 yn unig. 

Dywed y Cyng. Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Mae'r argyfwng costau byw wedi effeithio ar ein holl drigolion ledled y sir, ond yn enwedig ar y sawl sy'n dod o gefndir incwm isel.

"Fel cyngor, gallwn helpu lleihau peth o'r pwysau ar deuluoedd sy'n cael trafferth cael deupen llinyn ynghyd trwy ddarparu talebau am brydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau ar gyfer teuluoedd cymwys.  Mae'n bwysig fod ein plant a'n pobl ifanc yn cael mwynhau gwyliau'r haf, dan wybod bod bwyd ar gael iddynt."

Caiff y talebau eu dosbarthu yn ystod gwyliau'r haf, sy'n cychwyn ar ddydd Llun 24 Gorffennaf ym Mhowys.

Yn ôl y Cyng. Jake Berriman, Aelod y Cabinet ar gyfer Cysylltu Powys: "Byddai'r rhybudd hwyr a roddwyd i gynghorau ledled Cymru y byddai'r cynllun hwn yn dod i ben, wedi cael effaith niweidiol ar deuluoedd sydd ar incwm isel. Nid yn unig y bydden nhw'n colli allan o ran y cynllun talebau, ond ychydig iawn o amser fyddai ganddynt i addasu trefniadau ariannol y teulu hefyd.

"Bydd ein penderfyniad yn helpu cefnogi'r teuluoedd cymwys i ddarparu bwyd ar gyfer eu plant yn ystod gwyliau'r haf."

Meddai'r Cyng. David Thomas, Aelod y Cabinet ar gyfer Cyllid a Thrawsnewid Corfforaethol: "Cynllun a ariannwyd gan gyllid grant oedd y cynllun talebau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, felly ni ddyranwyd unrhyw gyllid o'r gyllideb bresennol ar gyfer y gweithgaredd hwn.

"Er mwyn ariannu'r cynllun hwn, byddwn yn defnyddio cyllid o gyllideb Risg ganolog y Cyngor.  Dyma'r ffordd gywir i weithredu er mwyn sicrhau fod y teuluoedd hyn yn gallu bwydo eu plant yn ystod gwyliau'r haf."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu