Talebau prydau ysgol am ddim yn y gwyliau
18 Gorffennaf 2023
Ar ddiwedd Mehefin, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei fod yn rhoi'r gorau i'w gymorth i ddarpariaeth prydau ysgol am ddim ar gyfer plant yn ystod y gwyliau a dros gyfnodau hanner tymor, gan Lywodraeth Cymru. Cyflwynwyd y cynllun yn ystod pandemig Covid er mwyn cefnogi 'llwgu yn ystod y gwyliau' ac i helpu teuluoedd yn ystod yr argyfwng costau byw.
Bellach bydd Cyngor Sir Powys yn darparu talebau am brydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau ar gyfer teuluoedd cymwys yn ystod gwyliau haf 2023 ar ôl i'r Cabinet gymeradwyo heddiw (dydd Mawrth 18 Gorffennaf) cyllido'r talebau, fydd yn golygu cyfanswm cost o ryw £280,000.
Bydd y cyllid untro hwn yn galluogi'r ddarpariaeth o dalebau prydau ysgol yn ystod y gwyliau ar gyfer gwyliau haf 2023 yn unig.
Dywed y Cyng. Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Mae'r argyfwng costau byw wedi effeithio ar ein holl drigolion ledled y sir, ond yn enwedig ar y sawl sy'n dod o gefndir incwm isel.
"Fel cyngor, gallwn helpu lleihau peth o'r pwysau ar deuluoedd sy'n cael trafferth cael deupen llinyn ynghyd trwy ddarparu talebau am brydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau ar gyfer teuluoedd cymwys. Mae'n bwysig fod ein plant a'n pobl ifanc yn cael mwynhau gwyliau'r haf, dan wybod bod bwyd ar gael iddynt."
Caiff y talebau eu dosbarthu yn ystod gwyliau'r haf, sy'n cychwyn ar ddydd Llun 24 Gorffennaf ym Mhowys.
Yn ôl y Cyng. Jake Berriman, Aelod y Cabinet ar gyfer Cysylltu Powys: "Byddai'r rhybudd hwyr a roddwyd i gynghorau ledled Cymru y byddai'r cynllun hwn yn dod i ben, wedi cael effaith niweidiol ar deuluoedd sydd ar incwm isel. Nid yn unig y bydden nhw'n colli allan o ran y cynllun talebau, ond ychydig iawn o amser fyddai ganddynt i addasu trefniadau ariannol y teulu hefyd.
"Bydd ein penderfyniad yn helpu cefnogi'r teuluoedd cymwys i ddarparu bwyd ar gyfer eu plant yn ystod gwyliau'r haf."
Meddai'r Cyng. David Thomas, Aelod y Cabinet ar gyfer Cyllid a Thrawsnewid Corfforaethol: "Cynllun a ariannwyd gan gyllid grant oedd y cynllun talebau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, felly ni ddyranwyd unrhyw gyllid o'r gyllideb bresennol ar gyfer y gweithgaredd hwn.
"Er mwyn ariannu'r cynllun hwn, byddwn yn defnyddio cyllid o gyllideb Risg ganolog y Cyngor. Dyma'r ffordd gywir i weithredu er mwyn sicrhau fod y teuluoedd hyn yn gallu bwydo eu plant yn ystod gwyliau'r haf."