Toglo gwelededd dewislen symudol

Prif Weithredwr yn gadael

Image of Dr Caroline Turner

20 Gorffennaf 2023

Image of Dr Caroline Turner
Bydd Prif Weithredwr Cyngor Sir Powys, Dr Caroline Turner yn gadael y Cyngor ddiwedd mis Gorffennaf. Mae Caroline wedi bod yn absennol o'r gwaith ers mis Mawrth yn sgil salwch.

Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd y Cyngor: "Ymunodd Caroline â Chyngor Sir Powys ym mis Chwefror 2019 yn ystod cyfnod anodd iawn i'r Cyngor. Gwelwyd gwelliannau dros y pedair blynedd diwethaf mewn sawl maes o ran rhedeg a darparu Gwasanaethau'r Cyngor, a chafodd hynny ei gydnabod gan Estyn ac Arolygaeth Gofal Cymru. Arweiniodd Caroline ymateb y Cyngor i'r heriau a ddaeth yn sgil Covid o 2020 ymlaen, gan sicrhau fod gwasanaethau'n parhau i gael eu cyflenwi oddi fewn i gyfyngiadau rheolau'r cyfnod clo."

Dywedodd Cadeirydd y Cyngor, Bev Baynham: "Rwyf wedi gweithio gyda Caroline fel Aelod o'r Cabinet ac fel Cadeirydd y Cyngor, a byddaf yn gweld eisiau ei chefnogaeth a'i chyfarwyddyd yn ystod f'ail dymor fel Cadeirydd y Cyngor. Dymunaf yn dda iddi wrth iddi barhau i wella o Covid Hir."

Wrth fyfyrio dros ei chyfod ym Mhowys, dywedodd Caroline Turner: "Mae wedi bod yn anrhydedd cael gweithio i Gyngor Sir Powys dros y pedair blynedd diwethaf. Rwyf wedi mwynhau dod i adnabod y Cynghorwyr, staff ar draws yr holl Wasanaethau, a gweithio gyda'n partneriaid i gyflenwi gwasanaethau. Mae Powys yn Sir brydferth ac amrywiol, ac roedd cael teithio ar hyd a lled y Sir yn fonws ychwanegol wrth i mi ymweld â phob cornel o'r Sir. Byddaf yn gweld eisiau Cyngor Powys ond byddaf yn parhau i ymweld â'r Sir yn rheolaidd."

Bydd Jack Straw yn parhau fel Prif Weithredwr dros dro nes i benodiad parhaol gael ei wneud. Bydd y Cyngor yn dechrau ar y broses recriwtio am Brif Weithredwr newydd ar unwaith.