Prosiect i wella sgiliau mathemateg yn cael ei lansio gan Wasanaeth Llyfrgell Powys
24 Gorffennaf 2023
Mae Gwasanaeth Llyfrgell Powys bellach yn cynnig Number Up, prosiect sy'n anelu at gynyddu hyder rhieni a gofalwyr mewn mathemateg, gan helpu i wella eu sgiliau rhifedd ac ysgogi angerdd am fathemateg ymhob aelod o'r teulu.
Bydd Number Up yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd dysgu am ddim, o gyrsiau byr mewn mathemateg i gymwysterau ffurfiol sy'n gallu agor drysau i gyfleoedd gwaith newydd neu addysg bellach. Gellir cyrchu cyrsiau ar-lein neu wyneb-yn-wyneb, a bydd defnyddwyr y llyfrgell yn gallu benthyg iPad neu liniadur i gefnogi eu dysgu.
Gall teuluoedd hefyd gael mynediad i gasgliad o lyfrau Number Up, sy'n helpu i wneud dysgu mathemateg yn bleserus i blant o bob oed, yn ogystal â gemau bwrdd, fel dominos, a nadroedd ac ysgolion, a fydd yn cael eu gosod ar fyrddau ar draws llyfrgelloedd ym Mhowys mewn pryd ar gyfer gwyliau'r haf, fel y gall teuluoedd gael hwyl wrth roi hwb i'w hyder bob dydd mewn rhifau
Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus: "Mae sgiliau rhifedd yn rhan hanfodol o fywyd bob dydd, p'un a ydym yn talu biliau, yn mesur cynhwysion ar gyfer coginio, neu'n helpu ein plant gyda'u gwaith cartref. Fodd bynnag, gall llawer o bobl gael trafferth gyda rhifau ac efallai y gallent deimlo embaras ynghylch gofyn am gymorth.
"Mae 'Number Up' yn rhaglen wych, sy'n galluogi pobl i fagu hyder a sgiliau mewn ffordd hwyliog, gan wneud cyllidebu cartref yn haws a, gobeithio, helpu rhieni a gofalwyr i wneud cynnydd yn eu gwaith.
"Os oes gennych ddiddordeb, beth am gysylltu â'ch llyfrgell leol a darganfod mwy."
Mae cynllun Number Up yn cael ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a bydd yn rhedeg tan fis Rhagfyr 2024.
Gallwch ddarganfod mwy am y cynllun drwy ymweld â'r www.storipowys.org.uk/number-up neu gysylltu â'r gwasanaeth drwy,
E-bost: numberup@powys.gov.uk
Ffôn: 01874 612395