Toglo gwelededd dewislen symudol

Prosiect i wella sgiliau mathemateg yn cael ei lansio gan Wasanaeth Llyfrgell Powys

Councillor David Selby and Powys Senior Library Assistant Amanda Griffkin

24 Gorffennaf 2023

Councillor David Selby and Powys Senior Library Assistant Amanda Griffkin
Mae'r cyngor sir wedi dweud bod prosiect sy'n ceisio gwella hyder pobl mewn sgiliau mathemateg ar y gweill ar draws llyfrgelloedd Powys.

Mae Gwasanaeth Llyfrgell Powys bellach yn cynnig Number Up, prosiect sy'n anelu at gynyddu hyder rhieni a gofalwyr mewn mathemateg, gan helpu i wella eu sgiliau rhifedd ac ysgogi angerdd am fathemateg ymhob aelod o'r teulu.

Bydd Number Up yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd dysgu am ddim, o gyrsiau byr mewn mathemateg i gymwysterau ffurfiol sy'n gallu agor drysau i gyfleoedd gwaith newydd neu addysg bellach. Gellir cyrchu cyrsiau ar-lein neu wyneb-yn-wyneb, a bydd defnyddwyr y llyfrgell yn gallu benthyg iPad neu liniadur i gefnogi eu dysgu.

Gall teuluoedd hefyd gael mynediad i gasgliad o lyfrau Number Up, sy'n helpu i wneud dysgu mathemateg yn bleserus i blant o bob oed, yn ogystal â gemau bwrdd, fel dominos, a nadroedd ac ysgolion, a fydd yn cael eu gosod ar fyrddau ar draws llyfrgelloedd ym Mhowys mewn pryd ar gyfer gwyliau'r haf, fel y gall teuluoedd gael hwyl wrth roi hwb i'w hyder bob dydd mewn rhifau

Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus: "Mae sgiliau rhifedd yn rhan hanfodol o fywyd bob dydd, p'un a ydym yn talu biliau, yn mesur cynhwysion ar gyfer coginio, neu'n helpu ein plant gyda'u gwaith cartref. Fodd bynnag, gall llawer o bobl gael trafferth gyda rhifau ac efallai y gallent deimlo embaras ynghylch gofyn am gymorth.

"Mae 'Number Up' yn rhaglen wych, sy'n galluogi pobl i fagu hyder a sgiliau mewn ffordd hwyliog, gan wneud cyllidebu cartref yn haws a, gobeithio, helpu rhieni a gofalwyr i wneud cynnydd yn eu gwaith.

"Os oes gennych ddiddordeb, beth am gysylltu â'ch llyfrgell leol a darganfod mwy."

Mae cynllun Number Up yn cael ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a bydd yn rhedeg tan fis Rhagfyr 2024.

Gallwch ddarganfod mwy am y cynllun drwy ymweld  â'r www.storipowys.org.uk/number-up neu gysylltu â'r gwasanaeth drwy,

E-bost: numberup@powys.gov.uk

Ffôn: 01874 612395

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu