Toglo gwelededd dewislen symudol

Dathlu 70 mlynedd o ddylunio eiconig

Laura Ashley Exhibition

28 Gorffennaf 2023

Laura Ashley Exhibition
Mae'r cyngor sir wedi dweud bod amgueddfa yng ngogledd Powys yn cynnal arddangosfa yr haf hwn i ddathlu gwaith dylunydd eiconig o Gymru.

Mae Amgueddfa a Llyfrgell Llanidloes wedi datblygu arddangosfa sy'n dathlu 70 mlynedd o ddylunio eiconig y dylunydd ffasiwn a nwyddau cartref a'r wraig fusnes, Laura Ashley.

Gallwch fynychu'r arddangosfa am ddim sy'n dangos nifer o ddarnau o waith Laura Ashley, gan gynnwys gwisg o bron bob degawd gyda gwisg arbennig o brin o'r 1960au ac arddangosfa o samplau ffabrig ac ategolion ffasiwn.

Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus: "Mae'n wych cael arddangos peth o waith Laura Ashley yn ein hamgueddfa yn Llanidloes, gan ddangos saith degawd yn y diwydiant ffasiwn a'r effaith y cafodd hi arno.

"Mae gan Laura Ashley hanes Cymreig amlwg - cafodd ei geni ychydig i lawr y ffordd ym Merthyr Tudful, roedd yn berchen ar blasty yn Rhaeadr, ac fe'i rhoddwyd i orffwys yng Ngharno.  Mae'n hollol addas i ni ddathlu peth o'i gwaith a rhoi'r cyfle i bawb sy'n dymuno ei weld i wneud hynny.

"Mae llawer o drigolion lleol, gan gynnwys fi, atgofion melys o weithio i gwmni Laura Ashley dros nifer o flynyddoedd. Efallai y bydd yr arddangosfa hon yn ailgynnau'r atgofion hynny i lawer.

"Mae croeso mawr i drigolion Powys ac ymwelwyr â'r sir i ddod i weld yr hyn sydd gan yr arddangosfa i'w chynnig."

Mae'r arddangosfa dros dro a bydd yn rhedeg tan ddiwedd mis Medi. Mae'r amgueddfa ar agor o 10am - 1pm ar ddydd Llun, 10am - 1pm a 2pm - 6pm ar ddydd Mercher, 10am - 1pm a 2pm - 4pm ar ddydd Gwener, a 9:30am - 1pm ar ddydd Sadwrn.

Am fwy o wybodaeth, ewch i Lyfrgell ac Amgueddfa Llanidloes, Neuadd y Dref Llanidloes, Stryd y Dderwen Fawr, Llanidloes, SY18 6BN, neu cysylltwch â ni,

E-bost: llanidloes.library@powys.gov.uk

Rhif ffôn: 01686 412855

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu