Toglo gwelededd dewislen symudol

Hwb casglu sbwriel newydd i Lyfrgell Llanfair-ym-Muallt

Image of the Builth Wells Litter Picking Hwb

1 Awst 2023

Image of the Builth Wells Litter Picking Hwb
Mae Llyfrgell Llanfair-ym-Muallt wedi ymuno â sawl hwb casglu sbwriel llwyddiannus arall ledled y Sir, a bellach dyma'r lle diweddaraf i fenthyg pecynnau casglu sbwriel i'r sawl sy'n awyddus i gael gwared ar sbwriel yn ei ardal.

Mae'r pecynnau'n cynnwys fest hi-vis, crafangau sbwriel, cylch sy'n cadw'r sachau ar agor a chyflenwad o fagiau ailgylchu a sbwriel. Caiff rhain eu darparu gan Gyngor Sir Powys ar y cyd â Chadwch Gymru'n Daclus. Gall pecynnau gael eu benthyg gan grwpiau lleol, clybiau, teuluoedd a gwirfoddolwyr eraill sydd am wneud gwahaniaeth yn eu hardal leol.

Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach: "Rydym ni bob amser yn awyddus i gefnogi cymunedau i  weithredu i wella eu hamgylchedd. Yn y byd delfrydol, byddai pobl yn ymddwyn yn gyfrifol a byddai'r holl sbwriel un ai'n cael ei gymryd adref neu ei roi mewn bin. Fodd bynnag, mae'n anochel y bydd peth sbwriel o gwmpas o hyd, ac mae cadw ein hardaloedd lleol yn ddi-sbwriel yn nod gan Caru Cymru, sef menter ledled Cymru sydd am ddileu sbwriel a gwastraff ac un y mae'r cyngor yn gwbl gefnogol ohoni." 

Ymunodd y cynghorwyr lleol, y Cynghorydd Jeremy Pugh a'r Cynghorydd Bryan Davies, ill dau, â Grŵp Sgowtiaid Llanfair-ym-Muallt yn y llyfrgell ddydd Sadwrn 15 Gorffennaf ar gyfer casglu sbwriel yn swyddogol am y tro cyntaf gan ddefnyddio'r offer newydd, gan ddweud: "Gwnaeth y tywydd amharu ychydig ar y digwyddiad casglu sbwriel cyntaf, ond ni wnaeth hynny stopio llu o bobl o'r grŵp sgowtiaid lleol a'u teuluoedd rhag ymuno a chymryd rhan a chael Llanfair-ym-Muallt i edrych fel pin mewn papur.

"Yn y gorffennol bu unigolion ymroddedig, fel Damian Andrews, yn ddiflino wrth gadw'r ardal leol yn ddi-sbwriel a hoffem ni ddiolch iddynt am eu gwaith caled, ond mae'n bryd i'r gymuned bellach ymgymryd â'r dasg. Wrth gael yr hwb casglu sbwriel hwn yn y llyfrgell, fe fydd yn hawdd i bawb cymryd cyfrifoldeb ac ymwneud â chadw ein tref yn lân ac yn daclus."

Dywedodd Swyddog Prosiect Powys ar gyfer Cadw'ch Gymru'n Daclus, Jodie Griffith,: "Rydym ni wrth ein bodd ein bod ni wedi helpu Llanfair-ym-Muallt i ymuno â'n rhwydwaith hwbiau casglu sbwriel yma ym Mhowys. Gall pobl archebu ymlaen llaw ar gyfer gweithgareddau mwy, neu alw mewn i'r llyfrgell i fenthyg pecyn am y dydd yn unig. Rydym ni'n annog unigolion, busnesau a grwpiau i wneud defnydd da o'r cyfleusterau newydd hyn er mwyn chwarae rhan i wella eu hamgylchedd lleol.

Am ragor o wybodaeth am bob hwb casglu sbwriel a manylion am sut i drefnu digwyddiad casglu sbwriel diogel yn eich ardal, ewch i: Pecyn codi sbwriel

Llun gan: Tim Edwards
Cefn, L-R: Trish Thomas (Llyfrgell Llanfair-ym-Muallt), y Cynghorydd Bryan Davies, Ashley Collins (Uwch Reolwr Gwastraff ac Ailgylchu CSP), y Cynghorydd Jeremy Pugh
Tu Blaen: Aelodau Grŵp Sgowtiaid Llanfair-ym-Muallt