Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cwsmeriaid y Llinell Ofal mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r sgam hwn (Ionawr 2025)

Pecyn codi sbwriel

Image of a group of litter pickers

Ry'n ni'n gweithio mewn partneriaeth â Cadwch Gymru'n Daclus i ddarparu pecynnau codi sbwriel o'r hybiau penodol ar draws Powys (sef llyfrgelloedd a rhai lleoliadau cymunedol eraill Machynlleth, Llanfyllin, Y Trallwng, Y Drenewydd, Tref-y-Clawdd, Llandrindod, Llanfair-ym-Muallt, Aberhonddu ac Ystradgynlais).

Mae pob pecyn yn:

  • cynnwys cipiwr sbwriel
  • bagiau sbwriel ac ailgylchu ar gyfer deunyddiau a gasglwyd
  • cylchoedd i gadw'r bagiau ar agor yn y maes
  • a festiau llachar i gadw ein gwirfoddolwyr arwrol yn ddiogel pan fyddant allan yn gweithio.

Trwy ddefnyddio'r ffurflen isod, gallwch wneud cais am becyn yn y llyfrgelloedd a rhai lleoliadau cymunedol eraill agosaf atoch, a byddwn yn cysylltu â nhw i gadarnhau bod y pecyn yn rhad ac am ddim ar y dyddiadau y gwnaethoch gais amdano a gadel iddyn nhw wybod eich bod chi'n dod. Darllenwch trwy'r canllaw (PDF, 2 MB) yn ofalus, oherwydd bydd angen i chi ddatgan eich bod wedi ei ddeall cyn i ni gyflwyno'r pecyn i chi. Mae'n cynnwys awgrymiadau defnyddiol ar ddiogelwch ar ymyl y ffordd, bywyd gwyllt a mwy.

Gofynnwn i chi wneud pob ymdrech i ddychwelyd y pecyn erbyn y dyddiad rydych wedi'i nodi, i helpu i sicrhau bod y gwasanaeth benthyca yn rhedeg yn ddi-fwlch, a chaniatáu i gymaint o grwpiau â phosibl chwarae'u rhan i gadw diwyg Powys yn wych!

Yn olaf, pan fyddwch wedi gorffen codi sbwriel, defnyddiwch yr ail ffurflen isod i roi gwybod i ni sut hwyl gawsoch chi. Hoffem ni wybod pa arwynebedd wnaethoch chi godi sbwriel ohono, faint o ddeunydd y gwnaethoch chi ei gasglu, ble mae'r sbwriel (er mwyn i ni ei godi), a hanes unrhyw broblemau eraill y daethoch chi ar eu traws ar eich taith; a oedd yna dipio anghyfreithlon, baw cŵn, neu unrhyw beth arall oedd yn achosi pryder.

Mwynhewch godi sbwriel!

Dywedwch wrthym ni am eich digwyddiad Casglu Sbwriel Dywedwch wrthym ni am eich digwyddiad Casglu Sbwriel

Dywedwch wrthym ni am eich profiad Casglu Sbwriel Dywedwch wrthym ni am eich profiad Casglu Sbwriel

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu