Allech chi ddarparu gwasanaeth cŵn crwydr?
4 Awst 2023
Mae'r cyngor yn chwilio am weithredwyr cymwys o ran cymhwyster, a sy'n gymwys a phrofiadol, i gyflwyno datganiad o ddiddordeb sy'n cynnwys un ai'r sir i gyd neu ran ohoni (y gogledd neu'r de).
Bydd y gwasanaeth yn ofynnol am gyfnod o dair blynedd, gyda'r dewis i estyn y tu hwnt i hyn os oes angen.
Bydd angen i ddarparwyr arfaethedig gael cytiau cŵn wedi eu lleoli'n briodol ar gyfer eu defnyddio gan y cyngor, ac sydd wedi eu hadeiladu a'u rheoli yn ôl safon trwyddedu, gan gynnwys darparu cyfleusterau cadw cŵn ar wahân. Bydd angen darparu eich cerbyd eich hun hefyd i gludo cŵn yn ddiogel.
Dylai unrhyw sefydliad sydd â diddordeb e-bostio: commercialservices@powys.gov.uk
Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Diogel: "Mae ein gwasanaeth cŵn crwydr wedi cael ei gontractio allan ers 2015 ac rydym am brofi'r farchnad i weld beth sydd ar gael ac am ba pris, ac i roi'r cyfle i eraill dendro amdano os ydynt yn gallu gwneud hynny.
"Caiff ein model brisio ar gyfer y gwasanaeth hwn ei seilio ar ffi cadw blynyddol, ffi galw allan, cyfradd y filltir a ffi ar gyfer pob dydd y caiff ci ei gadw yn y cytiau cŵn. Os oes diddordeb gennych mewn cyflenwi'r gwasanaeth hwn ar ein rhan ni, cysylltwch.
Bydd angen i'r gwasanaeth casglu fod ar gael rhwng 9am a 6pm, ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 10am a 4pm ar benwythnosau a gwyliau banc (ac eithrio Diwrnod Nadolig). Rhaid i aelod o'r cyhoedd fod yn gallu casglu eu cŵn yn ystod yr un amseroedd, ar ôl gwneud taliad i'r cyngor.
Bydd angen i unrhyw gŵn nad ydynt yn cael eu hawlio, gael eu hail-gartrefu gan y darparwr.
Gellir rhoi gwybod am gŵn crwydr neu goll drwy wefan y cyngor: Rhoi gwybod i ni am gi ar grwydr