Enwi wynebau newydd ar restr fer Gwobrwyon Busnes Powys eleni
07 Awst 2023
Trefnir y gwobrwyon, a gynigiwyd am y tro cyntaf yn 2009, gan Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru (MMWG) gyda chymorth noddwyr, mae'r gwobrwyon mawr eu bri yn agored i gwmnïau, sefydliadau, mentrau cymdeithasol ac elusennau.
Ymhlith yr 13 o gategorïau gwobrwyo sydd ar gael, mae 2 newydd eleni - sef Gwobr Unig Fasnachwr a noddir gan Powys County Times a Gwobr Rhagoriaeth mewn Cynaliadwyedd, a noddir gan Lywodraeth Cymru.
Cyflwynydd BBC Cymru, Claire Summers, fydd yn croesawu pawb i'r seremoni gwobrwyo am y trydydd tro; cynhelir y seremoni yn Theatr Hafren, Y Drenewydd nos Wener 20 Hydref.
Mae'r cwmnïau canlynol wedi cyrraedd y rhestr fer mewn dau gategori gwobrwyo: CastAlum, Y Trallwng, Hilltop Honey Limited, Y Drenewydd, Espanaro Ltd, Y Drenewydd; PM Training & Assessing Ltd, Crughywel a'r Abermule Inn, Aber-miwl, ger Y Drenewydd.
Mae'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol fel a ganlyn:
- Gwobr Busnes Newydd, a noddir gan EvaBuild: Great House Farm Luxury Pods, Llandeilo Graban, Llanfair-ym-muallt; Espanaro Ltd a The Abermule Inn.
- Gwobr Entrepreneuriaeth, a noddir gan MWMG: Hummingbird, Y Drenewydd; Espanaro Ltd a Hilltop Honey Limited.
- Gwobr Micro Fusnesau (gyda llai na 10 o weithwyr), a noddir gan Welshpool Printing Group:Waggon & Horses, Y Drenewydd; Advantage Automotive Ltd, Llanandras a FieldMouse Research, Trefaldwyn.
- Gwobr Twf, a noddir gan EDF Renewables: Morland UK, Y Trallwng; Links Electrical Suppliers Ltd, Y Drenewydd; SWG Group, Y Trallwng a Hilltop Honey Limited.
- Gwobr Busnesau Bach (gyda llai na 30 o weithwyr), a noddir gan Wipak: Coleg y Mynydd Du, Talgarth; ESCO/ M&S Pizza, Maesyfed a PM Training & Assessing Ltd.
- Gwobr Mentrau Cymdeithasol / Elusennau, a noddir gan Myrick Training Services:Siop Llangors, Llangors, Aberhonddu; Maesmawr Group, Llandinam a The Arches, Cymorth Cymunedol Rhaeadr Gwy a'r Cylch, Rhaeadr Gwy.
- Gwobr Twf Busnesau Bach, a noddir gan W. R. Partners: KC Accountancy Services, Llanfyllin; The Abermule Inn ac EOM Electrical Contractors, Y Drenewydd.
- Gwobr Technoleg ac Arloesi, a noddir gan CellPath: PM Training and Assessing Ltd, CastAlum ac Arcticfox Adaptive Ltd, Trefaldwyn.
- Gwobr Datblygu Pobl, a noddir gan Grŵp Colegau NPTC: CastAlum, Charcroft Electronics, Llanwrtyd; Pave Aways Ltd, Y Drenewydd a Marches Business Group, Llandrindod.
- Gwobr Unig Fasnachwr, a noddir gan Powys County Times: Deez Dough Nutz, Llandrindod; The Prized Pig, Trefaldwyn a Dark Sky Escapes, Aberhonddu.
- Gwobr Rhagoriaeth mewn Cynaliadwyedd: Splosh Limited, Y Drenewydd; Plas Dinam Country House, Llandinam a Radnor Hills, Trefy-y-clawdd.
O enillwyr y categorïau amrywiol, dewisir Busnes y Flwyddyn, a Chyngor Sir Powys sy'n noddi'r wobr ar gyfer yr enillydd cyffredinol. Yn ogystal, gall y panel beirniadu ddewis dyfarnu Gwobr Arbennig y Beirniaid yn ôl eu disgresiwn eu hunain i gydnabod cyrhaeddiad eithriadol gan fusnes neu unigolyn sydd heb ennill un o'r categorïau uchod.
Dywed Ceri Stephens, rheolwr grŵp MWMG: "Roedd nifer y cystadleuwyr wedi ein plesio'n fawr, a chafwyd cefnogaeth wych ar gyfer y ddau gategori newydd hefyd. Pleser enfawr yw gweld cymaint o enwau newydd yn cyrraedd y rownd derfynol, gyda chynrychiolaeth ddaearyddol mor eang, a chymaint o sectorau hefyd.
"Edrychwn ymlaen at weld yr holl gwmnïau ac unigolion yn y seremoni gwobrwyo, fydd yn gyfle rhagorol ar gyfer busnesau ledled Powys i godi eu proffil a dangos y cynnyrch a gwasanaethau amrywiol sydd ar gael yn y sir."
Yn ôl y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus: "Peth braf yw gweld cymaint o fusnesau Powys, boed nhw'n gwmnïau sefydlog neu newydd, yn cystadlu ar gyfer y gwobrwyon clodfawr hyn. Mae tasg anodd ond gwerthchweil iawn yn wynebu'r beirniaid."
Capsiwn i'r llun: Y cynghorydd David Selby (yn eistedd ar y dde) a rheolwr Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru, Ceri Stephens (yn eistedd, ail o'r chwith) gyda'r noddwyr wrth lansio Gwobrwyon Busnes Powys eleni.